Tachwedd 2025

20/11/2025

Damwain yn newid llwybr gyrfa

Matt Jones 

Mae damwain a newidiodd fywyd dyn o Ruthun wedi’i arwain at lwybr gyrfa newydd, gan ei helpu i ddysgu sut i wella defnydd ynni, lleihau costau a chefnogi’r amgylchedd.

Dechreuodd Matt Jones, Swyddog Prosiect Lleihau Carbon, ei yrfa fel saer tan i un diwrnod tyngedfennol ei wthio ar lwybr gwahanol sydd, erbyn hyn, yn dod â budd i breswylwyr Sir Ddinbych.

Mae Llais y Sir wedi bod yn siarad efo Matt i weld sut bu iddo ddringo’r ysgol yrfa at ei swydd bresennol.

Aeth Matt, beiciwr mynydd o fri, o Ysgol Brynhyfryd i Goleg Llandrillo yn y Rhyl ac yna i’r coleg yn Llandrillo-yn-Rhos i wneud cwrs sylfaen mewn crefft adeiladu, gan gyfuno sawl sgil ymarferol.

Eglurodd: “Oedden ni’n gwneud ychydig bach o blymio, gwaith trydanol, gwaith saer a phlastro. Yna, mi es i yn fy mlaen i ddewis gwaith saer a dechrau gweithio… ond yna mi dorrais fy mhigwrn. A dyna pryd newidiodd bopeth.

“Roeddwn i allan ar fy meic, yn mynd dros naid a daeth fy nhroed oddi ar y pedal, fe laniais droed yn gyntaf cyn y beic a thorri fy mhigwrn…

“Mi es yn ôl i orffen y cwrs, cael prentisiaeth a chael swydd efo’r un cwmni. Ond oherwydd y trafferthion ges i gyda fy mhigwrn mi ges i osteoarthritis a bu’n rhaid i mi gael llawdriniaethau, a gorfod gadael fy ngwaith saer a gwaith safle yn 2015. Fe newidiodd fy mywyd.

“Oherwydd fy mod i wedi torri fy mhigwrn hanner ffordd drwy’r flwyddyn, mi es i’n ôl a gorffen y flwyddyn a derbyn gwobr cyflawniad arbennig gan y coleg.”

Bu Matt yn gweithio ar brosiectau gwaith saer ar safleoedd treftadaeth, yn cynnwys Castell Conwy, Castell Biwmares a Chastell Dinbych.

“Roeddwn i’n gwneud llawer o bethau diddorol, ac yn mwynhau. Ond oherwydd bod y gwaith toi yn golygu defnyddio sgaffaldiau ac ysgolion, doeddwn i ddim yn gallu cario ‘mlaen i weithio oherwydd fy mhigwrn.

“Ar ôl hynny mi ges i fwy o lawdriniaethau; cefais y llawdriniaeth olaf, cymalglymu’r pigwrn, bron i ddeng mlynedd yn ôl rŵan.”

Ar ôl hynny, gwelodd Matt swydd ran-amser yn cael ei hysbysebu gan gartref preswyl Cysgod y Gaer Cyngor Sir Ddinbych a phenderfynodd fynd amdani.

“Swydd tasgmon/garddwr oedd hi, un rhan-amser, a oedd yn gyfle perffaith i mi fynd yn ôl i weithio’n ara’ deg gan nad oeddwn i’n gwybod sut fyddai fy mhigwrn. Ar ôl ychydig o flynyddoedd mi ges i ail swydd fel glanhawr yn Neuadd y Sir.”

Aeth Matt yn ei flaen i swydd arall gyda thîm cyfleusterau Neuadd y Sir, cyn gweld swydd Swyddog Ynni ac ennill HNC gyda chefnogaeth y Cyngor yng Ngholeg Cambria, Wrecsam.

Mae Tîm Ynni Sir Ddinbych wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau a lleihau costau defnyddio dros y tymor hwy.

Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Ychwanegodd Matt: “Yna gwelais gyfle arall, i fod yn Swyddog Prosiect Lleihau Carbon a chwblhau prentisiaeth gradd ynni carbon isel. A dyna lle dw i rŵan. Felly mae sawl cam wedi bod i’m gyrfa. Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth yma yn Sir Ddinbych i ddringo'r ysgol yrfa, fe ariannon nhw’r HNC i’m helpu i ddatblygu ac fe gafodd y brentisiaeth ym Mhrifysgol Wrecsam ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.”

Mae ei rôl yn un ‘llwybr graddfa uwch’ sy’n galluogi pobl i neidio ar ysgol yrfa a fyddai fel arall ar gyfer pobl sydd wedi’u cymhwyso’n barod. O ran gyrfa mae rôl Matt wedi’i dylunio i oresgyn rhwystrau a hwyluso datblygiad gyrfaol. Yn y Tîm Ynni mae rôl y Swyddog Ynni hefyd wedi dod yn un llwybr graddfa uwch.

“Mae’r radd dw i’n ei gwneud rŵan, a dw i newydd ddechrau’r ail flwyddyn, yn radd mewn Effeithlonrwydd Ynni Carbon Isel a Chynaliadwyedd, ac felly mae’n cyd-fynd yn berffaith efo’r hyn dw i’n ei wneud yn y rôl yma a’r prosiectau dw i’n gweithio arnyn nhw.”

Gan weithio ar brosiectau fel gosod paneli solar i wella effeithlonrwydd ynni yn Ysgol Uwchradd y Rhyl, Cartref Gofal Dolwen a hyd yn oed gweithio yng Nghysgod y Gaer ble dechreuodd bopeth, roedd cynaliadwyedd wastad yng nghefn meddwl Matt.

“Dw i wastad wedi mwynhau bod tu allan ac wrth fy modd efo natur, ac ar ôl bod yn beicio a beicio mynydd o gwmpas Rhuthun a Dyffryn Clwyd. Felly dw i wastad wedi bod ag ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd.

“Pan ‘dach chi’n dechrau gweld y data yn cyrraedd ac yn ei fonitro… mae’n dda. Dw i’n meddwl mai dyna pam dw i’n angerddol dros hynny rŵan, dw i’n ei fwynhau. Dw i’n mwynhau’r swydd hon a dw i’n awyddus i wella yn y maes. Pob swydd dw i wedi’i chael, yn enwedig efo’r Cyngor, dw i wedi’i mwynhau. Ac mae pob cam dw i wedi’i gymryd yn un i ddringo’r ysgol yrfa.”

Ond beth ydi cyngor Matt i unrhyw un sy’n wynebu cyfnod o orfod newid gyrfa?

“Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to, daliwch ati a gweithiwch yn galed, dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth dw i wastad wedi’i wneud. Roeddwn i’n gwybod na allwn i redeg o gwmpas safleoedd, a gwneud gwaith labro a’i fwynhau go iawn. Roedd yn rhaid i mi weithio allan i le’r oeddwn i eisiau mynd yn academaidd, a dw i wedi dod o hyd i’r lle hwnnw.”

Comments