llais y sir

Hydref 2016

Triawd busnes Llangollen yn arwain ymgyrch ar-lein #CaruBusnesauLleol

Mae triawd o fusnesau ffyniannus Llangollen yn helpu i arwain ymgyrch newydd i berswadio pobl i gefnogi busnesau lleol.Business1

Mae archfarchnad Stans, y siop awyr agored Pro Adventure a Lilly Rose Interiors i gyd wedi newydd ymuno â'r band bach sy’n tyfu o lysgenhadon swyddogol ar gyfer yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol #CaruBusnesauLleol (#LoveLiveLocal).

Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan y Cyngor i hyrwyddo siopau lleol annibynnol, cwmnïau bach a darparwyr gwasanaeth a'u helpu i fanteisio ar farchnata cyfryngau cymdeithasol.

Y syniad mawr y tu ôl i'r ymgyrch yw, os yw cwsmer yn caru'r cynnyrch y maent newydd brynu yn eu siop anrhegion leol neu wrth eu bodd gyda'r pryd maent wedi’i gael mewn bwyty, gallant ledaenu'r gair dros Twitter neu Facebook, yn syml drwy ychwanegu #CaruBusnesauLleol #LoveLiveLocal, i helpu eu ffrindiau a chymdogion busnes.

Mae Arweinydd Sir Ddinbych, Hugh Evans OBE wedi gwahodd busnesau ar draws y Sir i ymgysylltu â'r ymgyrch, defnyddio’r hashnod i hyrwyddo eu hunain a gofyn i’w cwsmeriaid ei ddefnyddio hefyd.

Dywedodd: “Mae yna gymaint o fusnesau gwych yma yn Sir Ddinbych ym mhob math o feysydd, o fwyd a gwestai, i siopau sy'n gwerthu crefftau unigryw a darparwyr gwasanaethau a phrofiadau unigryw.

“Mae angen i ni ledaenu’r gair a gwneud yn siŵr bod cymaint ag sy’n bosibl o bobl yn gwybod amdanynt ac yn eu defnyddio.

“Rydym yn galw ar bobl Sir Ddinbych i ddangos ysbryd cymunedol trwy gefnogi’r ymgais hwn i ddiogelu dyfodol ein strydoedd mawr.

“Mae busnesau bach yn helpu i greu economi rhanbarthol ffyniannus a darparu swyddi hanfodol i bobl leol.

“Dyna pam ein bod wir eisiau i bobl rannu eu profiadau cadarnhaol a rhoi hwb i'n hymgyrch #CaruBusnesauLleol drwy drosglwyddo’r neges ynghylch faint maent yn caru siopa'n lleol.

“Mae'n rhan o’n hymgyrch barhaus i ddatblygu ac ehangu'r economi leol, hyrwyddo siopa yn lleol ac annog busnesau i archwilio manteision defnyddio cyfryngau cymdeithasol ymhellach.”

Ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r ymgyrch mae archfarchnad Stans ar Stryd Berwyn lle dywedodd y rheolwr Steve Jones: “Byddaf yn gwneud beth bynnag a allaf i’w gefnogi fel llysgennad.

“Yn Stans yn Llangollen rydym o blaid cefnogi busnesau eraill o'r ardal ac rydym yn stocio eitemau oddi wrth 15 neu 16 o gyflenwyr lleol ochr yn ochr â'r prif frandiau.

“Rydym hefyd yn cefnogi achosion lleol ac yn y pedair blynedd ers i ni agor yn Llangollen rydym wedi cyfrannu tua £2,500 i ysgolion, timau pêl-droed a thîm Trefi Taclus yr ardal.

“Rwy'n credu bod #CaruBusnesauLleol yn ddefnyddiol gan fod y cyfryngau cymdeithasol yn arf marchnata gwerthfawr ac mae cael adborth am fusnesau lleol oddi wrth y bobl sy'n eu defnyddio yn bwysig iawn."

Llysgennad newydd arall #CaruBusnesauLleol yn Llangollen yw un o fusnesau ieuengaf y dref, Lilly Rose Interiors, a agorodd yn Stryd y Castell ddim ond pedwar mis yn ôl.

Mae'n cael ei rhedeg gan Jan Deeprose, sy'n byw yn yr ardal a defnyddiodd ei chefndir sylweddol mewn manwerthu fel man cychwyn i ddechrau ei siop ei hun yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau cartref a thŷ, o ganhwyllau a chlustogau i lestri ac addurniadau gardd.

Dywedodd: “Rwy'n falch o fod yn llysgennad ar gyfer #CaruBusnesauLleol gan fy mod yn gwybod bod cyfryngau cymdeithasol mor hanfodol i fusnesau'r dyddiau hyn. Dyna pam dwi ar Facebook, Twitter ac Instagram.

“Mae hefyd mor bwysig i fod yn gwneud rhywbeth i gefnogi busnesau lleol llai, sef beth mae’r cyngor sir yn ei wneud gyda'r ymgyrch hon.

“Mae bod yn lleol yn hanfodol y dyddiau hyn. “Rwyf yn byw ac yn gweithio yn Llangollen, felly yr wyf yn ymhyfrydu ar adnabod y farchnad leol a beth mae pobl ei eisiau, ac mae gallu lledu’r gair am yr hyn sydd gan fusnesau i'w cynnig drwy’r ymgyrch hon i gyd yn helpu."

Pete Carol, sydd wedi bod yn rhedeg ei fusnes Pro Adventure yn Llangollen ers 1991 ac yn awr yn gweithio o’r hen Swyddfa Bost ar Stryd y Castell.

Dywedodd: “Rwy'n falch o fod yn rhan gan fy mod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd i helpu i farchnata fy musnes, sydd yn fanwerthwr arbenigol ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored.

“Mae’n fwy na dim ond dillad ac rydym yn stocio eitemau ar gyfer cerdded, gwersylla a byw yn y gwyllt, megis bwyeill a chyllyll.

“Drwy ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol, rydym yn sylwi ar drydar sy’n cael eu rhannu’n lleol a’u hail-drydar, sy'n dda i fusnes.

“Mae'r ymgyrch #CaruBusnesauLleol yn estyniad o hynny ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan ohono gan y bydd yn bendant yn helpu i ddweud wrth bobl am yr hyn sy'n dda am ddefnyddio busnesau yn Llangollen a Sir Ddinbych."    

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...