Ymylon Ffyrdd
Yn 2018 rhoddodd y Cyngor Sir Ddinbych drefn newydd ar waith am y tro cyntaf ar gyfer torri gwair ar ymyl y ffordd, gyda’r nod o sicrhau rhwydwaith o ffyrdd sy’n ddiogel ar gyfer gyrwyr a cherddwyr, a rheoli adnodd pwysig o ran bywyd gwyllt ar yr un pryd.
Mae’r lleiniau ar ymylon ffyrdd Sir Ddinbych yn gynefin i lawer o blanhigion ac anifeiliaid prin. Mae’r rhain yn cynnwys ffacbys rhuddlas, sy’n tyfu ar lain wrth ymyl y ffordd ger Dinbych a nunlle arall yng Nghymru. Bydd y polisi newydd yn galluogi'r cyngor i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth genedlaethol ac yn ein helpu i gyflawni’r amcanion a bennwyd yn adran amgylcheddol ein Cynllun Corfforaethol.
Lluniodd y Cyngor bolisi newydd ar gyfer torri gwair ar ymylon ffyrdd, mewn partneriaeth â ‘Byw ar yr Ymylon’ (grŵp gweithredu yn Sir Ddinbych a ffurfiwyd gan drigolion lleol ac arbenigwyr ar fywyd gwyllt, a ddadleuodd o blaid torri’r gwair mewn ffordd sy’n diogelu bywyd gwyllt). Nid yw'r gwair yn cael ei dorri cyn amled o dan y polisi newydd, dim ond unwaith ddechrau’r haf ac unwaith eto ddechrau’r hydref. Fel hyn caiff blodau gwyllt lonydd i flodeuo a hadu, gan sicrhau eu bod yn goroesi ar ymyl y ffordd. Mae’r blodau’n bwysig i bryfed sy’n peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw, yn enwedig gan fod eu niferoedd yn gostwng yn ddifrifol.
Ar ben hynny, mae’r polisi newydd yn cynnwys ‘Toriad Bioamrywiaeth’ yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac ardal cyngor cymuned Nantglyn. Gwneir hyn unwaith y flwyddyn gan ddechrau ar 1 Awst. Dylai hynny fod yn well fyth ar gyfer y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ar yr ymylon.
Diogelwch y ffyrdd yw’r flaenoriaeth o hyd o dan y polisi newydd; caiff lleiniau gwelededd eu cynnal a’u cadw'n fwy cyson, wrth i’r ardaloedd lle nad oes unrhyw berygl gael eu rheoli at ddibenion cadwraeth.