llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Mis Mawrth Menter yn dychwelyd yn 2019

Bydd digwyddiad blynyddol i gefnogi busnesau am fis cyfan yn dychwelyd ym mis Mawrth.

Mae Mis Mawrth Menter y Cyngor yn dychwelyd gyda 25 o ddigwyddiadau sy’n cynnig bron i 100 awr o gymorth busnes mewn lleoliadau ar draws y sir.

Mae'r mis menter, a gynhelir drwy gydol mis Mawrth, yn cynnwys hyfforddiant sgiliau cyfryngau cymdeithasol a manwerthu, digwyddiad rhwydweithio gyda Ffederasiwn Busnesau Bach a Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn ogystal â digwyddiadau gyda Chyflymu Cymru i Fusnesau a Banc Datblygu Cymru.

Bydd hefyd cyfle i brynwyr bwyd brofi cynnyrch bwyd a diod lleol i sicrhau mwy o gysylltiadau ar gyfer busnesau lleol yn Blas Lleol - Cwrdd â'r Cynhyrchwyr a fydd yn cael ei drefnu ar y cyd â Grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Chlwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy.

Rhai o’r digwyddiadau eraill fydd sesiwn i fusnesau i fanteisio’n llawn ar Eisteddfod yr Urdd pan fydd yn cael ei chynnal yn Ninbych yn 2020 yn ogystal â digwyddiad i helpu busnesau sy’n allforio.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych: “Lluniwyd y rhaglen Mis Mawrth Menter i fodloni anghenion busnesau yn y sir.

“Mae Mis Mawrth Menter yn cynnig cyfle i gwmnïau rwydweithio a chael cyngor arbenigol ynghylch materion sydd o bwys iddyn nhw.

“Gallan nhw fynd â’r wybodaeth hon ymlaen a helpu i dyfu eu busnes, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn economi’r sir.

“Rydym hefyd yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i gymryd y cam o addysg i fusnes, rhywbeth mae’r Cyngor yn credu a fydd yn helpu pobl ifanc y sir i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt.

 “Penderfynwyd ar yr hyn y bydd Mis Mawrth Menter yn canolbwyntio arno yn dilyn adborth o’n Harolwg Busnes blynyddol ac mae’n dangos bod y Cyngor yn gwrando ar fusnesau ac yn cynnig cefnogaeth iddynt i fodloni eu hanghenion.”

Mae Mis Mawrth Menter yn rhan o waith y Cyngor ar ddatblygu’r economi lleol i sicrhau fod cymunedau’r sir yn wydn a bod mynediad gan drigolion at nwyddau a gwasanaethau.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle ewch i www.sirddinbych.gov.uk/mismawrthmenter

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...