llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Penodi Pennaeth Ysgol Gatholig Crist y Gair

Cadarnhawyd mai Amanda Preston yw Pennaeth newydd Ysgol Gatholig Crist y Gair 3-16 yn y Rhyl.

Bydd yr ysgol, sy’n rhan o Esgobaeth Wrecsam, yn agor ei drysau ym mis Medi, mewn adeilad newydd sbon, ac mae’r penodiad yn gam sylweddol ymlaen.

Mae’r rhaglen adeiladu wedi bod yn datblygu’n dda, ac mae’n parhau i fod ar amser.

Mae’r ysgol, a fydd yn gartref i 420 disgybl llawn amser rhwng 3 ac 11 mlwydd oed a 500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 mlwydd oed, yn cael ei hariannu mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn disodli Ysgol Mair ac Ysgol Gatholig Bendigaid Edward Jones.

Dywedodd Amanda, sef Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Elfed ym Mwcle ar hyn o bryd: “Rydw i wedi cyffroi’n arw ac mae’n hynod o fraint cael fy mhenodi fel Pennaeth cyntaf Ysgol Gatholig Crist y Gair.

Rydw i wedi bod yn dysgu ers dros 20 mlynedd mewn amryw o ysgolion. Yn ystod fy ngyrfa fel athro, rydw i wedi gweithredu rôl arweinydd mewn sawl swydd uwch, gan gynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a Phennaeth Mathemateg.

Fe wnes i raddio o Brifysgol Ystrad Clun gyda gradd Meistr mewn Peirianneg, ac rydw i wrth fy modd yn dysgu Mathemateg i bob lefel gallu.

Rydw i wedi bod yn gyfrifol am sawl agwedd allweddol o arwain ysgol, gan gynnwys safonau a chynnydd ym meysydd Sgiliau, Cwricwlwm a Lles.

Fy mhrif flaenoriaeth yw bod y plant a’r staff yn setlo, ac yn hapus yn ein hysgol newydd.

Rydw i’n teimlo’n angerddol dros addysgu, ynghyd â sicrhau darpariaeth addysgol ragorol ymhob maes, mae angen i ysgol gymunedol o’r radd flaenaf feithrin hyder a gwydnwch mewn pobl ifanc fel eu bod yn gallu mynd i’r afael â heriau gyda brwdfrydedd.

Rydw i’n credu bod gan blant angen am sylfaen gadarn i dyfu a ffynnu, ymhob maes, felly rydw i’n edrych ymlaen at gael arwain teulu Catholig Crist y Gair. Cefnogi a datblygu cred, gallu a doniau pob person ifanc, ac felly’n paratoi ein plant i fyw ac arwain mewn byd sy’n newid yn barhaus.”

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a'r Iaith Gymraeg: “Hoffwn longyfarch Mrs Preston ar ran y Cyngor a dymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd.

“Bydd Amanda yn darparu arweinyddiaeth hanfodol ac yn helpu i gyfrannu at lwyddiant Ysgol Gatholig Crist y Gair a fydd yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i ddisgyblion ac yn darparu amgylchedd dysgu da er mwyn iddynt ffynnu. Mae cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae darparu cyfleusterau ysgol modern sy’n gwella dysg disgyblion yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Dywedodd Gill Greenland, Cadeirydd y Corff Llywodraethu Dros Dro: “Dyma newyddion cadarnhaol a chyffrous i’r ysgol newydd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Amanda i’n cymuned wrth i bennod newydd mewn addysg Gatholig ddechrau yn y Rhyl.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...