llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Mae’r Gwanwyn wedi cyrraedd Ein Tirlun Darluniadwy

Mae’r tîm ar y Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy wedi bod yn brysur dros y Gaeaf yn cynllunio digwyddiadau er mwyn ymgysylltu’r cymunedau lleol gyda lleoliadau hardd sydd ar eu stepen drws. Bydd y rhaglen ddiweddaraf o ddigwyddiadau yn cael ei gyhoeddi yn y canllaw digwyddiadau ‘O Gwmpas Sir Ddinbych'. Brynhawn dydd Sadwrn 13 Ebrill, bydd y prosiect yn cynnal lansiad swyddogol yn Ffair Wanwyn Plas Newydd yn Llangollen, lle bydd prynhawn o weithgareddau, yn cynnwys rhoi cynnig ar ffeltio gwlân, darganfod hanes gwlân a chyfarfod y defaid. Yn ogystal â’r cyfle i roi cynnig ar lwybrau darganfod newydd o amgylch y safle ac ymuno â thaith gerdded dywys a sgwrs am gynlluniau i adfer y Dell yn ôl i’w hen ogoniant yn y cyfnod rhamantaidd pan oedd Merched Llangollen yn byw ym Mhlas Newydd. Bydd y tymor newydd ar gyfer y tŷ ac ystafelloedd te yn ei anterth hefyd, gan fod y drysau yn agor i ymwelwyr o 1 Ebrill ymlaen.

Ers y 1700au, mae pobl wedi bod ar siwrneiau ysbrydoledig drwy Ddyffryn Dyfrdwy, ar hyd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, ar hyd ffordd A5 Telford, Rheilffordd Llangollen a'r Afon Dyfrdwy. Daethant i fwynhau ac ymgysylltu â’r tirlun unigryw ac roedd nifer yn teimlo cymhelliant i drosi’r tirlun hardd i mewn i gelf. Trwy ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol, bwriad y prosiect yw ysgogi pobl leol heddiw i ddilyn ôl-traed artistiaid y gorffennol a chymryd rhan mewn gweithgareddau artistig eu hunain er mwyn dathlu'r tirlun hardd ac unigryw. Gobeithiwn hefyd annog pobl i ddarganfod a dysgu am eu treftadaeth a’u cynefin, pwysau'r oes fodern sy’n eu hwynebu a sut allwn ni eu diogelu a'u rheoli yn y dyfodol.

Os hoffech wybod mwy am y prosiect, neu os ydych yn rhan o grŵp cymunedol yn Nyffryn Dyfrdwy, rhwng Corwen a’r Waun, ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect drwy weithgareddau celf neu awyr agored, cysylltwch â our.picturesque.landscape@sirddinbych.gov.uk 01824 706163.

 

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...