llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Pan roedd Pencadlys Heddlu’r Sir yn Rhuthun

Mae Peter Daniels yn ymchwilio’r wybodaeth leol ar Heulfre, sydd bellach yn rhan o gampws Ruthin School

Mae Heulfre, a arferai fod yn gartref preifat o faint maenorol, wedi’i guddio i raddau helaeth gan estyniadau allanol. Fel yr awgryma ei faint, roedd ei feddianwyr yn gyfoethog a dylanwadol ac yn eu plith, ym 1911, oedd William Robert Evans, cyfreithiwr a Chlerc Heddwch. Yn yr 1950au, daeth yn gartref plant ac, yn ddiweddarach, yn swyddfeydd y sir a chartref nyrsio ond am gwta chwe blynedd, dyma oedd pencadlys Heddlu Sir Ddinbych

Mae’r rhesymau dos symud pencadlys heddlu Sir Ddinbych o’r Wrecsam i Ruthun yn niwlog bellach. Efallai fod hyn am yr un rheswm a fod Rhuthun yn dref sirol yr Hen Sir Ddinbych, roedd Rhuthun yn syml iawn yn fwy canolog. Ar y pryd, roedd Sir Ddinbych yn cynnwys Llanrwst, Bae Colwyn, Abergele, Dyffryn Ceiriog a Wrecsam. Roedd siâp eithaf anarferol a rhyfedd y sir yn llenwi’r bwlch rhyfedd rhwng siroedd sefydledig Sir Gaernarfon a Sir y Fflint.

Roedd hen bencadlys yr heddlu ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam, lleoliad presennol amgueddfa tref Wrecsam. Ym 1961, ar ôl symud y Pencadlys i Ruthun, roedd Heulfre yn gartref i’r swyddfa ganolog bwysig hon. Roedd rhwng 40 a 50 o staff wedi eu lleoli yn Heulfre, rhai ohonynt yn sifiliaid, gweinyddwyr gan amlaf, ond roedd swyddi eraill, fel stôr-geidwaid a garddwr.

Cyn hynny, roedd Heulfre yn gartref plant i Gyngor Sir Ddinbych gyda dalgylch mawr. Roeddynt yn mynychu Ysgol Brynhyfryd. Cyngor Sir Ddinbych, yn y cyfamser, oedd yn berchen ar Heulfre.

Ym 1961, nid oedd digon o le i ddechrau yn Heulfre er mwyn bod yn gartref i holl weithgareddau Pencadlys Heddlu Sir Ddinbych. Roedd y CID canolog wedi eu lleoli ar yr ail lawr ar ddiwedd Rhes y Rheilffordd cyn symud yn ddiweddarach i orsaf heddlu’r dref ar Stryd y Llys.

Ym 1967, unwyd Heddlu Sir Ddinbych gyda heddluoedd Sir y Fflint a Gwynedd. Dyma pryd y gwnaeth Walter Stansfield, prif gwnstabl olaf Sir Ddinbych, ymddeol. Roedd Heddlu Sir Gwynedd ei hun wedi bodoli ers 1950, pan unwyd lluoedd Ynys Môn, Sir Gaernarfon a Meirionnydd.

Cymerwyd y llun yma ar ddiwrnod olaf yr oedd Heulfre ar agor fel adeilad i'r heddlu, yn 1973.

Rhoddwyd y teitl Heddlu Sir Gwynedd ar yr heddlu cyfun ym 1967. Yn amlwg, nid oedd angen tri phencadlys ar wasanaeth heddlu cyfun Gwynedd. Mabwysiadodd safle yng Nghaernarfon fel ei leoliad canolog. Yn ddiddorol, ac heb amheuaeth fel arwydd o’r hyn oedd i ddod, lleolwyd awdurdod yr heddlu yn yr Wyddgrug, a’r clerc oedd prif weithredwr Sir y Fflint, T M Haydn Rees.

Fodd bynnag, nid y newidiadau ym 1967 oedd diwedd yr hanes i Heulfre. Parhaodd Haulfre mewn rhinwedd llai pwysig, ond roedd yn parhau i fod yn un o asedau pwysicaf yr heddlu cyfun newydd. O 1967, roedd Haulfre yn gartref i gofnodion troseddol a llysoedd y llu newydd. Yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl 1967, roedd yn rhaid catalogio’r rhain, eu cymhathu a’u ffeilio yn Rhuthun. Roedd hyn, wrth gwrs, yn y dyddiau cyn roedd unrhyw ddirnadaeth o'r cyfrifiaduro oedd i ddod, heb hyd yn oed sôn am gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu.

Yn ogystal roedd Heulfre yn gartref i’r storfeydd, adran trafodwyr cŵn ac academi yrru ganolog Heddlu newydd Gwynedd. Byddai dau hyfforddwr yr heddlu cyfun yn addysgu gyrwyr dros gyfnod o bum wythnos a byddai cwnstabliaid dibrofiad fel arfer yn aros gyda theuluoedd yn y dref. Byddai recriwtiaid newydd yn ymweld â Rhuthun i gael iwnifformau. Gallai pobl a oedd yn cerdded heibio weld cŵn yn cael eu hyffordd o flaen Heulfre.

Yn fwy lleol, roedd Heulfre yn parhau i fod yn gartref i staff ffotograffig rhanbarth Sir Ddinbych ac ystafell weithrediadau rhanbarth Sir Ddinbych, er bod y swyddogion heddlu traffig agosaf wedi eu lleoli yn Ninbych. Heulfre oedd yn cynnig cyfleusterau bwyta i swyddogion oedd wedi eu lleoli’n lleol ar Stryd y Llys.

Nid tan y 1970au cynnar y gwnaeth yr heddlu cyfun ystyried cael pencadlys newydd, mwy o faint. Yn ystod y cyfarfodydd niferus, rhoddodd awdurdod yr heddlu ystyriaeth ddwys i gael yr adeiladau newydd yn Rhuthun. Yn ôl y sôn roedd yn frwydr agos, ond collodd Rhuthun y dydd i Fae Colwyn.

Ym 1973 agorodd Heddlu Gwynedd ei bencadlys newydd canolog ym Mae Colwyn. Symudodd y swyddogaethau oedd wedi eu lleoli’n Rhuthun i’r safle newydd ar unwaith. Yn syth cyn hynny, yn Heulfre, roedd 19 o staff yn weddill, saith ohonyn nhw mewn iwnifform, prif arolygydd oedd y swyddog uchaf ei reng. Flwyddyn yn ddiweddarach, i osgoi dryswch gyda'r Cyngor Sir Gwynedd newydd, newidiodd Heddlu Gwynedd ei enw i Heddlu Gogledd Cymru.

Ym 1973, nid oedd bellach angen Heulfre. Ddechrau 1974, ar ôl cyfnod o fod yn wag, cymerodd tasglu bychan o gynllunwyr Sir Ddinbych a Sir y Fflint drosodd ran o’r adeilad oedd bellach mewn cyflwr gwael er mwyn cytuno ar bolisïau cludiant cynnar ar gyfer sir Clwyd oedd ar fin cael ei ffurfio. Nid oedd wedi cymryd yn hir iawn i’r adeilad adfeilio rhyw gymaint. Wedyn cafodd ei ddefnyddio ar gyfer addysg. Am tua dwy flynedd, daeth yn adeilad y chweched dosbarth ac yn ystafell gyffredin ar gyfer Ysgol Brynhyfryd. Cafodd hefyd ei adnewyddu fel un o bedwar swyddfa addysg ardal Cyngor Sir Clwyd, a oedd yn cefnogi ysgolion lleol. O’r herwydd, cafodd ei labelu’n Swyddfeydd y Sir.

Ni wnaeth erioed adfer ei statws blaenorol o ran ei rôl yn y sector cyhoeddus a chafodd ei adael yn wag, ac erbyn 1988, roedd Heulfre wedi dod yn gartref nyrsio. Roedd hyn yn ystod cyfnod o ehangu sylweddol yn y sector cartrefi nyrsio preifat. Yng nghanol yr 1980au ac unwaith eto ym 1993, ceisiodd y cartref nyrsio am ganiatâd ar gyfer rhagor o estyniadau. Ym 1997, gwnaeth Ruthin School gaffael yr adeilad a’i drosi’n lety preswyl.

Lleolir Heulfre oddi ar Ffordd yr Wyddgrug. Ewch drwy'r rhwystr ar fynedfa Ruthin School ar hyd y dreif ac mae Heulfre lai na munud o daith gerdded ar y chwith. Er ei fod ar hawl tramwy, cofiwch fod hwn yn rhan o ysgol.

Diolch i Peter Daniels, Cymdeithas Dinesig Rhuthun a'r Cylch ynghyd a Val Roberts, Ron Hughes, Roger Edwards, Pat Astbury, Emrys Wynne, Kay Culhane and Gareth Evans am y wybodaeth a'r erthygl.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...