llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Cnoi Cil

Gadewch i ni gydweithio i wella ein lefelau ailgylchu gwastraff bwyd.

Yn 2021 bydd gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd yn cael ei gyflwyno.

Yn y cyfamser rydym yn cychwyn ymgyrch i gael mwy o bobl i ailgylchu eu gwastraff bwyd ac yn annog y rheiny sy’n gwneud hynny i ailgylchu mwy fyth.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Cabinet Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy: “Rydym yn hynod falch bod cymaint o breswylwyr yn Sir Ddinbych yn ailgylchu eu gwastraff bwyd ac mae gan y rhan fwyaf o aelwydydd yr offer i wneud hynny.

Dros y misoedd nesaf, fe welwch negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, yn y wasg leol ac mewn rhifynnau o Llais Y Sir yn eich annog i ailgylchu mwy o wastraff bwyd. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am yr hyn sy’n mynd i fewn i’r cynwysyddion bwyd ac yn dilyn teulu o Ddyffryn Clwyd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau am ailgylchu gyda ni.

“Mae’n hollbwysig lledaenu mwy o wybodaeth am wastraff bwyd a dyma’r amser iawn i wneud hynny, wrth i ni baratoi i wneud newidiadau mawr dros y blynyddoedd nesaf".

I ganfod mwy am wastraff bwyd, ewch i: www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu

Nodyn atgoffa

Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnig:

  • casgliad bob wythnos newydd ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu fel papur, gwydr, caniau a phlastig
  • casgliad bob wythnos ar gyfer gwastraff bwyd
  • casgliad bob pythefnos newydd ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychain

Gyda 64% o’n gwastraff eisoes yn cael ei ailgylchu ac wrth i gasgliad ailgylchu wythnosol gael ei gyflwyno gyda chynwysyddion mwy, ychydig iawn o wastraff na ellir ei ailgylchu ddylai fod ar ôl yn y bin du.

Mae’r Cyngor felly’n bwriadu newid y gwasanaeth casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu i gasgliadau bob pedair wythnos i’r rhan fwyaf o aelwydydd. Gall preswylwyr ddewis cael biniau du mwy os oes eu hangen arnynt, ond yn gyffredinol bydd aelwydydd yn cael 35 litr yn ychwanegol bob wythnos yn eu Troliboc ar gyfer ailgylchu pecynnau gwastraff (gan gynnwys caniau, tuniau, poteli gwydr a jariau, poteli plastig a thybiau, papur a cherdyn) o'i gymharu â'u bin ailgylchu glas presennol.  Gallant greu mwy o le yn eu biniau du trwy ddefnyddio’r gwasanaethau ailgylchu newydd ar ymyl y palmant ar gyfer tecstilau, cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, batris ac, os oes angen, clytiau a gwastraff anymataliaeth.   

Mae’r Cyngor yn credu y dylai cynyddu maint biniau a chyflwyno gwasanaeth casglu wythnos a didoli deunyddiau ailgylchu ar garreg y drws, gyda chefnogaeth casgliadau arbennig eraill, ddiwallu anghenion ei breswylwyr.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...