llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 1

Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer gwobrau tai mawreddog

Mae Tai Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi gwobrau newydd sbon, i anrhydeddu cyflawniadau tenantiaid a’u gwaith yn eu cymunedau lleol.

Caiff y gwobrau eu cyflwyno yn 1891 y Rhyl ar 8 Mai, 2019, ac mae’r trefnwyr wedi cadarnhau mai Jewson a Roger W Jones of Rhyl fydd prif noddwyr y seremoni gwobrwyo cyntaf.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y categorïau canlynol:

  • Tenant y flwyddyn
  • Preswylydd tai / Grŵp cymunedol y flwyddyn
  • Gwobr gwasanaethau i gwsmeriaid ar gyfer Tai Sir Ddinbych
  • Tenant ifanc y flwyddyn
  • Gardd y flwyddyn – Ardal Gymunedol
  • Gardd y flwyddyn – Tenant/unigolyn
  • Prosiectau cymunedol y flwyddyn

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Tai: “Mae llawer iawn o waith gwych yn digwydd yn ein cymunedau lleol i wella ansawdd bywyd preswylwyr.  Mae cymunedau hefyd yn cydweithio ar brosiectau lleol ar gyfer pobl leol.

“Mae gwella tai yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae cynnal ein gwobrau cyntaf yn ffordd wych o anrhydeddu unigolion a chymunedau am eu hymrwymiad, ac anogwn enwebiadau gan gymunedau ar draws Sir Ddinbych.”

Am fwy o wybodaeth am y gwobrau neu i enwebu, cysylltwch â Thai Sir Ddinbych ar 01824 706000, housing@sirddinbych.gov.uk neu ymwelwch â’n gwefan http://www.denbighshirehousing.co.uk/

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...