llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 5

Cracer o ymgyrch Nadolig i siopau stryd fawr Sir Ddinbych

Mae ymgyrch wedi cael ei lansio i annog pobl yn Sir Ddinbych i siopa’n lleol y Nadolig yma gan roi hwb gwerth £2.5 miliwn i fasnachwyr stryd fawr y sir yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Ar gyfartaledd ym Mhrydain mae pob aelwyd yn gwario £500 ar anrhegion, addurniadau a bwyd ac mae Cyngor Sir Ddinbych am weld siopau lleol yn elwa eu siâr o weithgareddau’r Ŵyl.

Maen nhw’n gobeithio annog o leiaf traean o’r 30,000 o aelwydydd sydd yn y sir i wario hanner eu harian Nadolig gyda’u manwerthwyr lleol yn hytrach na phrynu ar-lein neu deithio i’r canolfannau siopa mawrion.

Trwy wario’u harian yn lleol bydd trigolion yn sicrhau bod eu harian yn rhoi hwb i’r economi leol – dywed arbenigwyr bod pob £1 sy’n cael ei wario yn lleol yn debygol o gael ei ail-wario 2.3 o weithiau sy’n golygu bod bron i £6 miliwn yn aros yn y sir.

Mae’r Cyngor yn annog pobl i siopa’n lleol trwy’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir Ddinbych, sy’n goruchwylio Tîm Economaidd a Datblygu Busnes y Sir: "Mae gennym ddetholiad hyfryd o siopau a busnesau annibynnol yng nghanol ein strydoedd mawr a hoffem annog mwy o bobl leol i ddewis gwario eu harian yn lleol a chyfrannu at yr economi leol.

“Mae siopau, bwytai, caffis a thafarndai lleol yn ganolbwynt i’n trefi ac yn chwarae rhan hanfodol wrth greu swyddi newydd a gwella ffyniant a dyna pam yr ydym yn annog pobl i siopa’n lleol y Nadolig yma.

“Bydd yn well i’r siopwyr hefyd gan y byddant yn prynu’n fwy lleol sy’n golygu llai o gostau teithio, profiad llawer mwy hamddenol a gallant ddod o hyd i rywbeth ychydig yn wahanol i’w roi o dan y goeden i’w hanwyliaid.

“Pe bai hanner y gwariant cyfartalog o £500 ar y Nadolig yn cael ei wario gan draean o’n haelwydydd gyda masnachwyr lleol, byddai economi'r sir yn ogystal â’n manwerthwyr yn cael hwb o £2.5 miliwn.

“Y peth arall yr hoffwn ei bwysleisio yw y dylai pobl siopa’n lleol weddill y flwyddyn hefyd. Pe bai pob oedolyn yn Sir Ddinbych yn gwario £5 yn ychwanegol yr wythnos yn lleol yn hytrach nag ar-lein neu mewn siop gadwyn yn ystod gweddill y flwyddyn, byddai hynny’n creu cyfanswm o £300,000 yn ychwanegol yr wythnos i gadwyr siopau’r sir. Ar adeg pan fo terfynau elw yn gaeth, gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr.

“Mae’n golygu hyrwyddo’r profiadau siopa amrywiol a bywiog sydd gennym yn Sir Ddinbych a, p’un a ydych yn prynu twrci gan eich cigydd neu bâr o sanau o siop y stryd fawr, byddwch bron yn sicr o gael gwell ansawdd nag y byddech gan y siopau cadwyn mawr a byddwch yn cyfrannu at les eich tref neu bentref hefyd.

“Mae ein busnesau yn cynnig gwerth gwych am arian, amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog ac rydym am chwarae ein rhan i arddangos beth sy’n gwneud ein trefi yn arbennig.”

Yn y cyfamser, mae gan yr arbenigwraig fanwerthu Helen Hodgkinson o Ddyserth sydd wedi cydweithio’n agos â busnesau lleol, gyngor ynglŷn â sut i wneud y gorau o'r Nadolig sef y cyfnod pwysicaf o'r flwyddyn werthu.

Mae ymgyrch #CaruBusnesauLleol Cyngor Sir Ddinbych yn annog pobl i ddefnyddio eu siopau a’u gwasanaethau lleol ac i fusnesau hyrwyddo eu hunain ac i bawb ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Twitter a Facebook i rannu eu profiadau cadarnhaol o Sir Ddinbych fel lle gwych i siopa.

Mae mynd ar-lein yn hollbwysig yn ôl Helen, sy’n gyn-fanwerthwr ffasiwn a darlithydd coleg, a dywedodd: “Mae’n rhaid i chi siarad am yr hyn yr ydych yn ei gynnig a'i hyrwyddo i’r eithaf ar gyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan – yn aml mae pobl yn dewis peidio â siopa’n lleol gan nad ydynt yn gwybod beth sydd ar gael.

“Mae angen i chi wthio’ch nwyddau a manteision siopa'n lleol megis arbed amser teithio a'r ffaith bod y nwyddau yn aml yn arbenigol, gwahanol ac unigryw ac mae angen gwneud yn siŵr bod pawb yn cael gwybod hynny.

“Mae’r trefi’n cael nosweithiau siopa hwyr felly gwnewch y gorau o hynny, rhowch wybod i bobl pa noson yw hi a beth fyddwch yn ei wneud – mae’n syniad gwahodd pobl eraill fel crefftwyr ac artistiaid i arddangos yn eich siop.

“Er enghraifft mae siop Snow in Summer yn Ninbych wedi gwneud hynny'n dda iawn felly mae'n bwysig gweithio gyda phobl eraill ar eich stryd fawr a dweud wrth y byd pam y dylent siopa yn eich tref.

“Mae angen i gadwyr siopau gymryd rhan mewn digwyddiadau, ffeiriau a marchnadoedd Nadolig – mae The Little Cheesemonger yn Rhuddlan yn gwneud hynny a gall hynny ddenu pobl i’ch stryd fawr ac i’ch siop.”

Roedd Helen o Dyserth yn gweithio i Fine Fare a Holland and Barrat cyn iddi agor ei busnes dillad moesegol yn Llandudno ac mae wedi bod yn dysgu yng Ngholeg y Rhyl, gan gynnwys cyfres o gyrsiau gan yr arbenigwraig manwerthu, Mary Portas oddi ar y teledu, ar fanwerthu’n llwyddiannus.

Meddai: “Mae arlwy gwych ar gael yn Sir Ddinbych, llawer o siopau annibynnol anarferol, hynod ac arbenigol sy’n cynnig nwyddau gwych ac mae pobl eisiau prynu rhywbeth sydd ychydig yn wahanol, rhywbeth sydd â stori y tu ôl iddo, ond allwn ni ddim disgwyl iddyn nhw droi i fyny, mae’n rhaid i chi ennyn eu diddordeb.”

Fel rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol y Nadolig, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dangos fideo sy’n tynnu sylw at yr hyn sydd gan y sir i’w gynnig a bydd yr ymgyrch yn annog pobl i gefnogi busnesau annibynnol lleol trwy ddefnyddio hashnod yr ymgyrch ar Twitter a Facebook i rannu eu profiadau da yn ogystal â hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau sydd wedi creu argraff arnyn nhw yn lleol.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cyngor-a-chymorth-busnes/CaruBusnesauLleol-LoveLiveLocal.aspx a gall busnesau a chwsmeriaid gymryd rhan trwy gynnwys #CaruBusnesauLleol yn eu negeseuon Twitter ac ymuno â’r grŵp #CaruBusnesauLleol ar Facebook.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...