llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 5

Y Nadolig: amser mwyaf gwastraffus y flwyddyn?

Awgrymiadau Gwych gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Cyngor ar fod yn ‘ddiogel o ran bwyd’ y Nadolig hwn, a hynny wrth leihau gwastraff ac arbed arian ac amser gwerthfawr.

Mae'r Nadolig a bwyd yn mynd law yn llaw. Rydym yn bwyta tua 10 miliwn[1] o dwrcïod bob Nadolig ac yn gwario ychydig dros £20 y pen[2] ar gyfer darparu'r cinio Nadolig hwnnw fydd gobeithio'n berffaith. Ond mae gwastraff bwyd yn rhemp. Yn ôl ymgyrch atal gwastraff bwyd Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff, rydym yn taflu dros 100,000 tunnell o ddofednod bwytadwy bob blwyddyn!

Mewn ymdrech i wneud y Nadolig hwn yn llai gwastraffus ac yn fwy arbennig – a hynny wrth gadw at arferion diogelwch bwyd hanfodol – mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymuno â Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff i lunio awgrymiadau gwych a ryseitiau dyfeisgar fel y gall gwledd Nadolig defnyddwyr fynd ymhellach heb arwain at salwch annymunol.

“O ran diogelwch bwyd gall coginio, rhewi a dadrewi dofednod fod yn ddryslyd. Adeg y Nadolig twrci yw ein hoff fwyd o hyd, ond mae pobl yn aml yn taflu’r bwyd sydd dros ben yn hytrach na’i ddefnyddio mewn dull diogel,” eglura David Alexander, Pennaeth Polisi Hylendid Bwyd Cyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dywedodd Helen White o Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff: “Mae gennym ni i gyd lawer ar ein meddwl yn ystod tymor yr ŵyl ac fe all taflu bwyd i ffwrdd gael ei wthio gan bethau eraill i’r naill ochr! Gall y gost o roi bwyd yn y bin gynyddu’n gyflym, yn nhermau’r arian rydych yn ei wastraffu a'r niwed mae hyn yn ei gael ar yr amgylchedd. Gyda’r awgrymiadau gwych hyn ac ychydig o gynllunio medrus fe allwch osgoi taflu gwerth cannoedd o bunnoedd o fwyd da sydd heb ei fwyta – ac nid dim ond adeg y Nadolig.”

AWGRYM UN: CADWCH YN CŴL

Gwiriwch fod eich oergell wedi ei osod ar 5°C neu is a phrofwch hyn gyda thermomedr oergell. Os oes angen cymorth arnoch fe allwch ddefnyddio offer tymheredd oergell Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff . Cyn belled â bod eich bwyd o fewn y dyddiad ‘defnyddio olaf’ ac wedi ei gadw yn unol â’r cyfarwyddiadau storio, bydd yn aros yn ffres yn hirach. Storiwch gig amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta fel ffrwythau ffres a chig wedi ei goginio ar wahân bob amser i osgoi croeshalogi.

AWGRYM DAU: Deall dyddiadau

Mae’n bwysig i ddeall y gwahaniaeth rhwng y dyddiad ‘ar ei orau cyn' a’r dyddiad ‘defnyddio olaf' er mwyn aros yn ddiogel o ran bwyd a sicrhau nad ydych yn taflu bwyd da i ffwrdd yn ddiangen. Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn' yn ymwneud ag ansawdd: bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad yma, ond mae'n bosibl na fydd bellach ar ei orau. Mae’r dyddiad defnyddio olaf yn ymwneud â diogelwch: ni ddylai bwyd gael ei fwyta, ei goginio na'i rewi ar ôl y dyddiad hwn gan y gallai fod yn anniogel - hyd yn oed os yw wedi ei storio'n gywir ac yn edrych ac yn arogli'n iawn.

AWGRYM TRI: Byddwch yn barod i rewi

Mae 80% o ddefnyddwyr wedi taflu bwyd oedd yn agos i’w ddyddiad defnyddio olaf heb sylweddoli y gallant ei rewi a’i gadw. Mae’n ddiogel i rewi bwyd hyd at y dyddiad defnyddio olaf. Mae rhewi yn gweithredu fel ‘botwm oedi' a gallwch rewi bron iawn popeth, gan gynnwys cigoedd amrwd a chigoedd wedi eu coginio, ffrwythau, tatws (ar ôl eu berwi am bum munud gyntaf) a hyd yn oed wyau. Craciwch eich wyau i gynhwysydd y gallwch ei selio a rhewch nhw. Gallwch wahanu’r melynwy oddi wrth y gwynnwy gyntaf os ydych am eu defnyddio ar gyfer seigiau gwahanol. Gall bloc mawr o gaws caled gael ei gratio a’i rewi hefyd.

AWGRYM PEDWAR: Defnyddiwch eich bwyd dros ben

Mae yna ffyrdd diddiwedd o ail ddefnyddio neu ail ddyfeisio'r bwyd Nadolig sydd dros ben, o'r stilton drewllyd a'r ysgewyll i'r Gacen Nadolig a'r saws bara. Oerwch nhw, gorchuddiwch nhw a rhowch nhw yn yr oergell neu’r rhewgell o fewn awr neu ddwy. Bydd rhannu’r bwyd sydd dros ben i ddognau llai yn helpu i oeri’r bwyd yn gynt, yna gallwch rewi a dadrewi'r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer prydau i'r dyfodol. Mae gan dwrci, conglfaen y cinio Nadolig, lawer i’w gynnig. Ond ar ôl cael brechdan dwrci am y pum canfed tro efallai y byddwch yn teimlo’n barod am newid. Os nad oes gennych lawer o syniadau sut i wneud y gorau o'r bwyd sydd dros ben, cymrwch gipolwg ar y ryseitiau blasus a dyfeisgar hyn yn ymwneud â bwyd Nadolig sydd dros ben gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff.

AWGRYM Pump: BRWYDR Y BACTERIA

Wrth i fwyd ddadrewi mae ei dymheredd craidd yn codi gan ddarparu’r amodau delfrydol i facteria dyfu - dyma pam mae'n well dadrewi bwyd yn araf a diogel, yn ddelfrydol yn yr oergell dros nos. Hefyd gallwch ddadrewi bwyd yn drylwyr yn y microdon – sicrhewch eich bod yn ail gynhesu’r bwyd hyd nes ei fod yn chwilboeth. Unwaith mae’r bwyd wedi dadrewi, mae’r botwm oedi 'i ffwrdd’ felly bydd angen i chi fwyta'r bwyd o fewn 24 awr. Cofiwch mai dim ond unwaith y dylid ail gynhesu cig sydd wedi ei goginio a'i rewi'n flaenorol. Ond fe allwch goginio cig sydd wedi ei ddadrewi yn ddiogel mewn pryd newydd a rhewi'r pryd hwnnw i'w ddefnyddio rhyw ddiwrnod arall. Er enghraifft fe allwch brynu eich twrci wedi ei rewi, ei ddadrewi, ei goginio a defnyddio’r cig sy’n weddill mewn cyri. Gall hwnnw wedyn gael ei rewi i'w fwyta a'i fwynhau ar ddiwrnod arall – gyda’r Nadolig erbyn hynny yn atgof pell!

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Nadolig ar-lein yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

[1] BritishTurkey.co.uk

[2] BritishTurkey.co.uk

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...