Beth yw 'Tai yn Gyntaf'
Mae ‘Tai yn Gyntaf' yn seiliedig ar adferiad er mwyn dod a digartrefedd i ben gan ganolbwyntio ar symud pobl sydd yn ddigartref yn sydyn i dai annibynnol a pharhaol ac yna’n darparu cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol fel bo angen.
Egwyddorion Tai yn Gyntaf yw:
- Hawl Dynol yw cael cartref
- Dylai defnyddwyr y gwasanaeth fod â dewis a rheolaeth
- Tai ddim yn amodol ar gefnogaeth neu driniaeth
- Dull yn seiliedig ar adfer
- Dull o leihau niwed
- Ymrwymiad gweithgar heb orfodaeth
- Cynllunio yn canolbwyntio ar yr unigolyn
- Cefnogaeth hyblyg ar gael fel bo angen
Cyfarfod rhai o'r tîm Tai yn Gyntaf newydd
