llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 5

Edrych ymlaen at wasanaeth llyfrgell Sir Ddinbych

Mae llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych ymysg y rhai sy'n perfformio orau yng Nghymru gyfan, gyda'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau yn darparu gwasanaethau gwerth am arian da i drigolion lleol.

Mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn Strategaeth Llyfrgell newydd sbon Sir Ddinbych, yn dangos:

  • Cymerodd 29.5% o blant 4-12 oed yn Sir Ddinbych ran yn her ddarllen yr haf yn 2019 (1af yng Nghymru)
  • Cafodd 41,225 o bobl gymorth i'w defnyddio ac i fynd ar-lein (1af yng Nghymru)
  • Mae 19.2% o boblogaeth Sir Ddinbych yn aelodau o'r gwasanaeth llyfrgell (y ganran uchaf yng Ngogledd Cymru a'r 5ed uchaf yng Nghymru)
  • 125,454 o ymweliadau rhithwir â'r wefan (6ed yng Nghymru)
  • 401,234 o ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd (8fed yng Nghymru)

Ffeithiau eraill:

  • Benthyciwyd 356,050 o eitemau (gan gynnwys lawrlwythiadau digidol)
  • Defnyddiwyd cyfrifiaduron 53,691 o weithiau
  • Daeth 51,192 o bobl i 4,414 o weithgareddau

Mae'r Cyngor wedi buddsoddi dros £1 miliwn mewn adnewyddu llyfrgelloedd yn Ninbych, Llanelwy, Rhuddlan a'r Rhyl ac mae i hyn fanteision ehangach i'r economi leol.  Cyfartaledd gwariant defnyddwyr llyfrgell mewn siopau a chaffis lleol yw £8.07-Cyfrifir hyn drwy ddefnyddio canfyddiadau astudiaeth a gomisiynwyd gan Gynghrair Amgueddfeydd Archifau Llyfrgelloedd. Yn seiliedig ar hyn, mae'r cyfraniad y mae gwasanaeth llyfrgell Sir Ddinbych yn ei wneud i'r economi stryd fawr leol bron deirgwaith cymaint â chost y gwasanaeth.

Erbyn hyn mae'r Cyngor yn amlinellu sut y mae'n bwriadu datblygu'r gwasanaeth llyfrgell dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn golygu edrych ar ffyrdd o foderneiddio llyfrgelloedd nad ydynt wedi cael eu hadnewyddu ers dros 10 mlynedd; cryfhau gweithio mewn partneriaeth i gynnal llyfrgelloedd yn ein cymunedau; rheoli'r casgliadau o lyfrau i alluogi cwsmeriaid i gael gafael ar stoc yn eang;  datblygu gwasanaethau digidol drwy farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol; hyrwyddo cyfleusterau TG i gael gafael ar wasanaethau'r Cyngor ac edrych ar ffyrdd amgen o hyrwyddo'r hyn sydd gan y llyfrgelloedd i'w gynnig.

Meddai Liz Grieve, Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'n llyfrgelloedd.  Ein llyfrgelloedd yw'r calonnau sy'n curo yn ein cymuned.  Maent yn rhoi cyfleoedd i bobl wella eu lles, eu dysgu a'u ffyniant drwy ddarparu mynediad i'r sgiliau darllen a llythrennedd a'r adnoddau y mae pobl eu heisiau a'u hangen. 

"Yn ogystal â rhoi benthyg llyfrau, mae llyfrgelloedd yn darparu mynediad at wybodaeth drwy lyfrau printiedig, yn ddigidol drwy fynediad am ddim i gyfrifiaduron a thrwy gyswllt dynol gyda'n Llyfrgell a'n timau siop un stop.

"Mae'r gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth ac rydym yn falch iawn o barhau i fuddsoddi mewn llyfrgelloedd gan ein bod yn gweld gwir fudd llyfrgelloedd ar fywydau pobl.

"Nawr rydyn ni'n edrych i'r dyfodol ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar adnoddau a gwybodaeth ar gyfer eu hiechyd a'u lles; teimlo wedi'u cyfoethogi trwy ddarllen; gallu cael gwasanaethau yn ddigidol a chymryd rhan mewn diwylliant lleol bywiog ".

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...