llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 5

Gadewch i ni ddweud wrthych am Julie Bradley

Mae Julie Bradley, sydd â 12 o wyrion ac wyresau, yn hen law ar ofalu am bobl.

Dechreuodd Julie ei gyrfa fel gwniadwraig hunanddysgedig, ac fe roddodd hi’r gorau i'w gwaith i fagu ei phlant cyn symud i'r Rhyl ym 1994.

Wrth i’w phlant fynd yn hŷn, penderfynodd Julie ddychwelyd i’r gwaith a dechreuodd drwy dreulio cyfnod yn gwirfoddoli yn siop YMCA’r Rhyl. Ond bu Julie’n dioddef â sawl cyflwr iechyd, gan gynnwys ffibromyalgia, problemau â’r galon a heintiau, a golygodd hyn nad oedd hi'n gallu gweithio ac felly roedd hi’n ddi-waith am 13 mlynedd.

“Roeddwn i wirioneddol eisiau gweithio,” meddai Julie, “ond roedd magu fy mhlant a’m problemau iechyd parhaus yn golygu fy mod wedi gorfod treulio llawer o amser yn ddi-waith. Pan ddechreuais i weithio, y cwbl yr oedd angen ei wneud oedd curo ar ddrws ffactri a gofyn am swyddi gwag. Erbyn imi ddychwelyd i’r gwaith, roedd popeth wedi newid a doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau."

Yn ystod ffair swyddi yn Neuadd y Dref y Rhyl, fe ddaeth Julie ar draws Sir Ddinbych yn Gweithio ac roedd pethau’n dechrau edrych yn well ar ôl hynny. Gweithiodd Julie gyda'r mentor Cerian Asplet - Phoenix, a dechreuodd gymryd y camau cyntaf tuag at gyflogaeth.

Gweithiodd Cerian gyda Julie i benderfynu ar y math o waith fyddai o ddiddordeb iddi, ysgrifennu CV newydd a'i helpu i ddod o hyd i swyddi. Fe wnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd helpu Julie drwy ddarparu dillad ar gyfer cyfweliadau.

Meddai Cerian: “Mae Julie wedi bod yn ddi-waith ers cryn dipyn o amser bellach, felly roedd yn bwysig ei helpu i fagu hyder a'i rhoi hi ar y trywydd cywir. Weithiau, mae ein cymorth yn golygu llawer mwy na dod o hyd i swydd, mae'n ymwneud â darparu’r cyfarpar hanfodol er mwyn i bobl allu symud ymlaen. Mae Julie’n cyflwyno ei hun yn dda mewn cyfweliadau, ond roedd arni hi angen cymorth i agor y drysau yn y lle cyntaf. Roeddem ni’n gwybod ar ôl treulio amser â Julie ei bod hi'n awyddus i gael swydd yn gofalu am bobl."

Fe ddaeth Julie o hyd i swydd wag yn Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan, yn darparu gwasanaethau manwerthu ar draws y wardiau.

Dewiswyd Julie ar gyfer y cyfweliadau, ac mae hi bellach wedi ymuno â thîm yr ysbyty, yn gwerthu lluniaeth a nwyddau eraill i gleifion. I Julie, sydd wedi astudio astudiaethau busnes yng Ngholeg y Rhyl, dyma oedd ei swydd ddelfrydol.

“Fe wnaeth fy hen nain fyw nes yr oedd hi’n 94 oed ac roeddwn i’n gwrando ar ei straeon ac yn helpu o gwmpas y tŷ. Gwelais yr hysbyseb ar gyfer y swydd yn yr ysbyty ac roeddwn i’n gwybod mai dyma’r swydd ddelfrydol i mi. Rwyf wrth fy modd yn helpu ac yn gofalu am bobl. Rwyf bellach yn fy swydd ddelfrydol ac rwy'n hyfforddi gwirfoddolwyr eraill sy'n gweithio gyda mi ar y wardiau. Mae fy oriau wedi cynyddu hefyd.

“Ni fydd fy mhroblemau iechyd yn diflannu, ond rwy’n gallu eu rheoli mewn modd sy’n gweithio imi. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb Sir Ddinbych yn Gweithio. Nid oeddwn i’n gwybod sut i chwilio am swydd na sut i wneud cais. Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi bod yn hollbwysig imi, er fy mod i bellach mewn cyflogaeth, rwy'n gwybod bod croeso imi gysylltu â nhw os oes arnaf angen unrhyw beth. Nid ydynt yn beirniadu, maent yn y cynnig cymorth, ac ni allaf ddiolch digon i Cerian am hynny” meddai Julie. 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...