Mae'r Cyngor a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n atgoffa ymwelwyr i barcio’n gyfrifol wrth ymweld ag atyniadau yng nghefn gwlad dros yr haf.

Maent yn gofyn i ymwelwyr sydd am fwynhau’r mannau prysur yng nghefn gwlad o amgylch Dyffryn Dyfrdwy a Bryniau Clwyd gynllunio ymlaen llaw cyn teithio i’r ardaloedd.

Mae nifer o baratoadau eisoes wedi’u gwneud ar gyfer cynnydd mewn traffig yn yr ardal wrth i wyliau’r haf gyrraedd.

Bydd ceidwaid cefn gwlad ychwanegol yn gweithio mewn ardaloedd sy’n cynnwys Rhaeadr y Bedol yn Llangollen, Moel Famau a Pharc Gwledig Loggerheads i gynorthwyo a darparu gwybodaeth i ymwelwyr.

Bydd swyddogion gorfodi sifil hefyd yn monitro’r safleoedd, yn enwedig pan mae disgwyl iddynt fod ar eu prysuraf.

Gall rhai sy’n ymweld ag ardal Llangollen ar ddyddiau Sadwrn bellach ddefnyddio gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy, sy’n mynd ar lwybr cylchol bob dydd Sadwrn tan 30 Awst. Mae’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos â Rhaeadr y Bedol ac atyniadau poblogaidd lleol gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur y Wenffrwd, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Bydd y gwasanaeth yn galluogi ymwelwyr a thrigolion i ymweld a mwynhau’r lleoliadau hyn heb orfod mynd i’r drafferth o chwilio am le i barcio ym mhob safle.

Mae’r bws yn galw ym Mhafiliwn Llangollen, lle mae digonedd o le i barcio cerbydau am y dydd.

Mae cyfres o fesurau hefyd wedi’u cyflwyno wrth Foel Famau i leihau tagfeydd yn yr ardal, yn cynnwys llinellau melyn dwbl, rhagor o leoedd parcio a lle i barcio ar ochr y ffordd er mwyn i draffig ymwelwyr lifo’n well.

Mae ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog yn gryf i barchu cefn gwlad a bod yn synhwyrol drwy barcio’n gyfrifol, peidio â thaflu sbwriel a beicio ar lwybrau lle mae caniatâd yn unig.

Os yw hi’n braf, mae pobl hefyd yn cael eu hannog i beidio â chynnau barbeciw, stofiau gwersylla na thanau ar ardaloedd rhostir oherwydd y perygl sylweddol o dân. Dewch â phicnic yn hytrach na barbeciw ac ewch â'r holl sbwriel adref gyda chi.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Rydyn ni eisiau i bobl fwynhau’r atyniadau awyr agored gwych sydd ar gael yma, ond hoffem eu hatgoffa bod cyfyngiadau parcio’n bwysig ar gyfer diogelwch ffyrdd ac i sicrhau nad oes unrhyw un yn hawlio lleoedd parcio’n annheg. Gall swyddogion gorfodi sifil roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw un sydd ddim yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau parcio.

“Mae ein ceidwaid yn gweithio pob penwythnos i ddarparu cyngor ac arweiniad i ymwelwyr sy’n dod i’r safleoedd a byddwn yn gofyn i’r cyhoedd hefyd barchu’r rôl maen nhw yno i’w gwneud.

“Cynlluniwch eich diwrnod ymlaen llaw, ceisiwch ddefnyddio cyfleusterau fel bws Dyffryn Dyfrdwy i deithio, a fydd yn arbed lleoedd parcio, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio dewisiadau eraill i ymweld â nhw ac o ran parcio os na fydd modd i chi ymweld â’ch dewis cyntaf o leoliad. Mae digonedd o atyniadau i ymweld â nhw yn yr ardal arbennig hon.”