Yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiadau yn ardal Moel Famau, mae pobl yn cael eu hannog i ddilyn cyngor pwysig i gadw anifeiliaid anwes ar dennyn tra’u bod allan yng nghefn gwlad yn ystod y gwyliau.
Mae tarfu ar dda byw, hynny yw cŵn yn tarfu ar ddefaid ac yn eu herlid, yn anghyfreithlon. Gall cŵn sy’n cael eu dal yn tarfu ar dda byw gael eu difa a gall eu perchnogion gael eu herlyn.
Dylai ymwelwyr â chefn gwlad fod yn ymwybodol o ba gyfyngiadau a chanllawiau sydd mewn grym yn yr ardal benodol honno a chadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Fe atgoffir pobl hefyd i wirio ymlaen llaw i weld a yw cyfleusterau cefn gwlad ar agor yn ystod adegau prysur a pharcio’n gyfrifol mewn ardaloedd dynodedig.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Fe wyddom fod llawer o berchnogion cŵn sy’n ymweld â’n hardaloedd cefn gwlad yn barchus ac yn cadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn tra’u bod yn mwynhau’r golygfeydd, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am hynny.
“Fodd bynnag, rydym ni’n gwybod bod yna rai sydd ddim yn dilyn y rheolau ac rydym ni’n eu hatgoffa mai nhw sy’n gyfrifol am les eu ci pan fyddan nhw’n cerdded drwy gefn gwlad.
“Gellir erlyn pob perchennog ci sy’n anwybyddu’r rheolau ac sy’n gadael i’w hanifeiliaid anwes darfu ar dda byw, ac os caiff eu hanifeiliaid eu dal yn tarfu, fe ellir eu saethu’n gyfreithiol. Mae hyn yn achosi trallod i bawb ac yn ganlyniad sydd arnom ni wir eisiau ei osgoi.
“Os ydych chi’n dod â’ch ci efo chi i’n cefn gwlad, cofiwch gynllunio ymlaen llaw, dewch i wybod am y tir y byddwch chi’n cerdded arno, parchwch y cod cefn gwlad a chadwch eich ci ar dennyn bob amser.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/?lang=cy a dilynwch AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar Facebook ac X.