Bydd darn olaf o waith adfer yn diogelu darn o hanes Prestatyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae gwaith wedi’i wneud ym Maddonau Rhufeinig Prestatyn i helpu i ddiogelu ac adfer y safle hanesyddol yn Melyd Avenue.
Cafodd y trysor cudd ei ddarganfod am y tro cyntaf yn y 1930au yn ystod gwaith cloddio ar y safle. Yna cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Credir i’r Baddondy gael ei adeiladu o amgylch 120 OC, gydag estyniad pellach yn 150 OC.
Mae yna rywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir fod yna gysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau.
Gallai hefyd fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rheoli a gofalu am y Baddonau Rhufeinig ac wedi ymgymryd â rhaglen o waith adfer yn yr ardal.
Roedd gwaith adfer diweddar a wnaed gan Ben Davies sy’n arbenigo mewn gwaith adfer ar y safle yn cynnwys adfer y gweddillion, gan fod y garreg wedi’i rhoi yn ôl yn ei lle gyda sment y tro diwethaf y gwnaed gwaith, nad yw’n ddelfrydol.
Mae Ben, sydd hefyd yn artist wedi bod yn tynnu hwn ac yn rhoi cerrig yn ôl yn eu lle gwreiddiol yn defnyddio morter calch. Morter calch fyddai wedi cael ei ddefnyddio yn hanesyddol ac mae’n caniatáu ar gyfer ehangu/cyfyngu yn ystod newid yn y tymheredd sy’n helpu i gadw’r garreg wreiddiol (atal craciau ac ati).
Mae tyllau hefyd wedi cael eu llenwi i atal dŵr rhag sefyll ar y gweddillion a difrod gan rew dilynol.
Roedd ceidwaid cefn gwlad ynghyd â gwirfoddolwyr a gefnogwyd gan y Rhaglen Natur er Budd Iechyd hefyd wedi gwneud gwaith i wella’r llwybrau troed yn y safle.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r safle pwysig hwn wirioneddol yn un o ‘drysorau cudd’ Prestatyn ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at adfer a diogelu’r ardal hanesyddol hon.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes i ymweld â’r Baddondy Rhufeinig i gael golwg ar y darn hwn o hanes sydd i’w weld yn glir ym Mhrestatyn.”