Gwneud cais am le mewn meithrinfa
Gall plant fynychu dosbarth meithrin y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Nid yw cael lle mewn dosbarth meithrin mewn ysgol benodol yn gwarantu lle i’ch plentyn mewn dosbarth derbyn yn yr ysgol honno. Bydd angen i chi wneud cais newydd ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn.
Gallwch wneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn 2025 rŵan.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin, ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022, yw 17 Chwefror 2025, a byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 6 Mai 2025.
Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.