Mae cyfleoedd i ofalu am yr arfordir yn darparu buddion i bobl a byd natur lleol.

Ar draws arfordir y sir, mae gwirfoddolwyr wedi helpu ceidwaid i ailgyflwyno moresg i’r system twyni o amgylch harbwr y Rhyl i gefnogi bioamrywiaeth leol, atgyweirio pren ar y llwybr pren a gosod dwy fainc newydd.

Maent hefyd wedi helpu i osod disgiau ac arwyddion newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ger yr harbwr yn Horton's Point , Barkby a thwyni Gronant.

Mae’r gwirfoddolwyr hefyd wedi helpu i baratoi pethau ar gyfer y nythfa o fôr-wenoliaid yn Nhwyni Gronant ac maent yn help mawr gyda rhedeg y nythfa o ddydd i ddydd yn ystod tymor y môr-wennoliaid bach.

Mae clirio prysgwydd wedi bod yn flaenoriaeth dros fisoedd y gaeaf, ac mae gwaith wedi’i wneud ar dwyni Barkby a Gronant a Thraeth y Tŵr. O dan arweiniad y ceidwaid, gwnaeth y gwirfoddolwyr waith cynnal a chadw pwysig ar y cychod gwenyn unigol, gan eu glanhau’n iawn a sicrhau eu bod yn barod i’w rhoi allan unwaith eto yn y gwanwyn.

Meddai Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Mae cael gwirfoddolwyr yn torchi llewys a gweithio efo ni yn wych gan eich bod chi’n gallu gweld faint maen nhw’n mwynhau bod tu allan a gwneud rhywbeth pwysig i helpu natur leol a’u cymuned i fwynhau’r ardal.

“Mae gwirfoddoli gyda ni yng nghefn gwlad yn ffordd wych i roi hwb i’ch iechyd, ennill profiad a gofalu am yr amgylchedd lleol.

Gwaith arfordirol y gallwch chi ein helpu ni gyda:

Lleoliad

Gweithgaredd

Dyddiad

Amser

Canolfan Fowlio Gogledd Cymru, Ferguson Avenue, Prestatyn LL19 7YA

Clirio prysgwydd

Dydd Gwener 7 Chwefror

10am-3pm

Maes parcio Traeth Barkby, wrth y toiledau cyhoeddus, Barkby Avenue LL19 7LG

Tasgau ar y twyni

Dydd Llun 10 Chwefror

10am-3pm

Lle chwarae Traeth y Tŵr, Ffordd Idwal, Prestatyn LL19 7US

Tasgau ar y twyni

Dydd Llun 17 Chwefror

10am-3pm

Maes parcio Traeth Barkby, wrth y toiledau cyhoeddus, Barkby Avenue LL19 7LG

Clirio prysgwydd

Dydd Llun 24 Chwefror

10am-3pm

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Mae mynd tu allan yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, ac rydym ni’n ddiolchgar am y cyfle parhaus hwn gan y ceidwaid i wirfoddolwyr allu cefnogi eu lles eu hunain.

“Mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu natur ar hyd ein harfordir, sydd hefyd yn helpu i warchod yr ardaloedd a’r cynefinoedd fel llefydd i bobl ymweld â nhw a’u mwynhau.

Os hoffech chi helpu, cysylltwch â Claudia ar 07785517398 neu Claudia.Smith@sirddinbych.gov.uk.