Mae gwaith wedi cael ei wneud mewn ysgol gynradd yn Sir Ddinbych i ddarparu effeithlonrwydd ynni gwell i staff a disgyblion a chostau ynni is yn yr hir dymor ar gyfer yr adeilad.

Mae Tîm Ynni'r Cyngor wedi gweithio i fynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni a lleihau costau yn Ysgol Bodfari.

Mae'r tîm wedi rheoli nifer o brosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor yn cynnwys ysgolion, i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.

Fe wnaeth Tîm Ynni’r Cyngor asesu’r adeilad i weld pa ddefnydd o ynni allai gael ei wella er mwyn bod yn fwy effeithlon.

Roedd y gwaith yn Ysgol Bodfari yn cynnwys gosod system paneli solar (7.47KW) ar do’r ysgol. Fe fydd pob Kilowatt a gynhyrchir ac a ddefnyddir gan yr ysgol yn arbed tua 22 ceiniog, ac nid yn unig y mae’r capasiti yma’n lleihau carbon yn sylweddol, ond mae hefyd yn lleihau’r straen ar yr isadeiledd grid yn lleol.

Gosodwyd goleuadau LED y tu mewn i’r ysgol hefyd a fydd yn helpu i wella effeithlonrwydd a lleihau costau defnyddio ynni.

Gosodwyd bwyler effeithlon modern newydd yn yr ysgol hefyd sydd yn galluogi rhagor o arbedion costau ynni yn yr hir dymor ac effeithlonrwydd gwell ar gyfer y safle cyfan.

Disgwylir i’r holl waith arwain at arbedion blynyddol o tua 18079kWh, dros 4.5 tunnell o allyriadau carbon a thros £2961 y flwyddyn mewn llai o gostau ynni, gan dalu’n ôl yr hyn sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfnod cymharol fyr.

Dywedodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Rydym wedi dod â gwahanol ddarnau o dechnoleg at ei gilydd yn yr ysgol i helpu i wella amgylchedd yr ysgol ar gyfer disgyblion a staff ac i leihau biliau ynni yn yr hirdymor.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau a diolch i’r Tîm Ynni am eu holl waith a’r gefnogaeth gan ddisgyblion a staff yn Ysgol Bodfari tra bod y gwaith wedi bod yn digwydd.”