Mae cynefin natur newydd wedi cael ei greu gan ddisgyblion Ysgol Bro Dyfrdwy i helpu bywyd gwyllt ardal Cynwyd.

Ymunodd y disgyblion gyda Thîm Bioamrywiaeth y Cyngor a’r Ceidwaid Cefn Gwlad i helpu gyda phlannu gwrych newydd a choed safonol ar dir yr ysgol.

Dros y 12 mis diwethaf, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ledled ysgolion y Sir, er mwyn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chanopïau coed ar diroedd ysgol, i helpu adferiad natur a darparu ardal awyr agored lles addysgol i’r plant. Cafodd ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth y DU.

Mae plannu coed ar diroedd ysgol hefyd yn cefnogi ymdrech y Cyngor i fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Mae disgyblion wedi creu gwrych 50 metr o hyd, llawn rhywogaethau amrywiol dreiniog, sy’n blodeuo ac yn ffrwytho er mwyn cefnogi byd natur lleol.

Mae gwrych yn cynnwys afalau surion sy’n darparu bwyd i lindys a gwyfynod drwy eu dail. Mae eu blodau’n darparu ffynhonnell gynnar o neithdar i beillwyr, gan gynnwys gwenyn. Mae mwyalch, bronfreithod, brain a llygod cwta i gyd yn bwyta’r ffrwythau hefyd.

Wedi’i gynnwys yn y gwrych hefyd mae’r Griafolen. Mae eirin y goeden yn ffynhonnell gyfoethog o fwyd hydrefol i’r fronfraith fawr, y tingoch, asgell goch, y fronfraith, caseg y ddrycin a’r aden gwyr.

Mae coed eraill sydd wedi’u plannu gan y disgyblion yn y gwrych yn cynnwys coeden goeg-geirios, rhosod gwyllt, y fasarnen fach, y ddraenen wen, coeden gellyg gwyllt, y gollen, celyn, yr oestrwydden a’r gwyros.

Roedd coed o faint safonol y plannwyd ar diroedd ysgol yn cynnwys y geiriosen wyllt a’r gastanwydden bêr.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Ysgol Bro Dyfrdwy am eu cefnogaeth wych i helpu ein tîm Bioamrywiaeth gyda’r gwaith o greu’r ardal benigamp hon ar gyfer byd natur lleol, yn ogystal â lles ac addysg y plant sydd wedi bod yn cymryd rhan.”