Sesiynau Hel Atgofion
Ymunwch â ni yn Llyfrgelloedd Rhuthun a Rhyl am baned, sgwrs ac i hel atgofion.
Bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn y ddwy lyfrgell ar y dyddiadau canlynol:
- Llyfrgell Rhuthun: Chwefror 25 a Mawrth 25
- Llyfrgell Y Rhyl: Chwefror 18 a Mawrth 18
Cawn gwmni aelodau o ‘Making Sense’ sy’n archwilio rhyngweithio a chyfathrebu gyda chynulleidfa trwy wrthrychau a'r synhwyrau. Byddwn yn cyflwyno’r defnydd o Fagiau a Blychau Hel Atgofion yn y sesiynau sy’n cynnwys casgliad o lyfrau, cerddi, eitemau ac arogleuon sy’n ysgogi’r synhwyrau ac annog hel atgofion a thrafodaeth. Mae’r Blychau Hel Atgofion ar wahanol themâu fel Dyddiau Ysgol, Sinema a Lan y môr.
Mae’r sesiynau ar gyfer unigolion a hefyd staff mewn cartrefi gofal a phreswyl i gyfarfod mewn awyrgylch hamddenol gyda phaned.