Bydd prosiect a gynhaliwyd yn ystod 2024 yn cynnig cefnogaeth fwy cadarn i aderyn dan fygythiad sy’n dychwelyd i Sir Ddinbych eleni.

Y llynedd, bu i Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor lansio prosiect i sicrhau gwell amddiffyniad i wenoliaid duon sy’n nythu ar draws y sir.

Mae’r wennol ddu yn ymweld â’r DU dros yr haf, gan hedfan bron i 3,400 o filltiroedd ar ôl treulio’r gaeaf yn Affrica, i’r DU i fridio. Maen nhw’n paru am oes gan ddychwelyd i’r un safle bob tro.

Maent yn hoff o nythu mewn tai ac eglwysi, gan fynd i mewn drwy fylchau bach yn y to. Fodd bynnag, wrth i adeiladau hŷn gael eu hadnewyddu ac wrth i fylchau mewn toeau gael eu cau ac adeiladau newydd gael eu dylunio’n wahanol, mae’r gwenoliaid duon wedi diflannu’n gyflym.

Mae’r pryfed y mae’r adar yn dibynnu arnynt i fwydo eu cywion ac i gael egni ar gyfer mudo yn diflannu wrth i gynefinoedd megis ardaloedd blodau gwyllt a dŵr croyw gael eu colli. Mae’r Cyngor yn gweithio i adfer y colledion drwy reoli ei Brosiect Dolydd Blodau Gwyllt sydd hyd yma wedi creu bron i 70 acer o gynefinoedd addas, er mwyn cefnogi adferiad y boblogaeth o bryfed ac adar.

Er gwaethaf gwaith i’w diogelu yn lleol ac yn ehangach, mae’r wennol ddu ar y lefel uchaf o flaenoriaeth o ran cadwraeth yn y DU ar hyn o bryd.

Er mwyn cynnig mwy o gefnogaeth i’r gwenoliaid duon sy’n ymweld â Sir Ddinbych, cafodd 114 o flychau gwenoliaid eu gosod gan y Tîm Bioamrywiaeth y llynedd ar draws y sir. Mae'r rhain yn gymysgedd o flychau o ddeiliadaeth ar gyfer un, dwy a phedair gwennol, ac mae yna le i chwech ohonynt mewn ambell un.

Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Evie Challinor: “Gosodwyd y blychau hyn ar ysgolion, adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor gan gynnwys Neuadd y Sir a rhywfaint o breswylfeydd preifat yn ardaloedd Rhuthun, Corwen a’r Rhyl. Fe wnaethom ganolbwyntio ar y tair ardal yma, gan fod cofnodion Cofnod yn dangos i ni fod gwenoliaid duon i'w cael yn y lleoliadau hyn o hyd. Rydym eisiau cynnal y poblogaethau hyn cyn eu helpu i ehangu ledled y sir unwaith eto”.

“Mae llawer o’n dolydd blodau gwyllt i’w cael yn yr ardaloedd hyn hefyd, ac mae hynny’n gweithio’n dda, gan ddarparu cynefin i’r wennol ddu, sy’n cynnal y pryfed y maent yn dibynnu arnynt i fwydo.”

“Fe wnaethon ni gynnal teithiau cerdded yn y prif ardaloedd hyn er mwyn helpu i gofnodi gwenoliaid duon a gwenoliaid duon sy’n chwilota, yn ogystal â ‘heidiau sgrechian’. Mae’r grwpiau hyn sy’n galw’n uchel i gynnull adar yn yr awyr wrth iddi nosi, yn dangos i ni fod yr ardal hon â’r gallu i gefnogi’r adar, wrth i ni fynd ati i gryfhau eu poblogaethau sy’n prinhau.”

Mae’r Tîm Bioamrywiaeth yn parhau i weithio gyda Thai Sir Ddinbych, preswylwyr tai’r Cyngor, preswylfeydd preifat, ysgolion, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, partneriaid Bionet, busnesau lleol a grwpiau lleol megis grŵp Chirk Swifts (enillydd gwobr Bionet 2024) fel bod modd bwrw ymlaen â’r prosiect.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Rydym yn ddiolchgar i’n cydweithwyr yn Nhai Sir Ddinbych, eu preswylwyr a phawb a fu’n cefnogi’r prosiect hwn y llynedd, a bydd hyn yn helpu i sefydlogi poblogaeth y wennol ddu yn lleol.”