Ffair Yrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio’n llwyddiant mawr
Ymunodd Sir Ddinbych yn Gweithio â 38 o sefydliadau a chyflogwyr o bob rhan o’r sir i gynnal digwyddiad rhwydweithio rhad ac am ddim i unigolion sy’n chwilio am waith.
Daeth dros gant o bobl 16 oed a throsodd i’r ffair yn y Rhyl, yn cynnwys teuluoedd o Wcráin sydd wedi dod i Sir Ddinbych fel rhan o Gynllun Adsefydlu’r DU.
Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor yw cydlynu’r math o gymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith drwy chwalu rhwystrau. Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu’n rhannol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau am Waith a Chanolfan Byd Gwaith.
Y weledigaeth ehangach yw lleihau tlodi drwy alluogi unigolion i gael mynediad at rwydwaith o wasanaethau a fydd yn eu cefnogi ar eu taith i gyflogaeth, i gadw eu swyddi a datblygu unwaith y maent mewn gwaith.
Roedd nifer o swyddogion Sir Ddinbych yn Gweithio yn y digwyddiad i roi cyngor am gyflogaeth ac i gyfeirio pobl at fframwaith Sir Ddinbych yn Gweithio a fydd yn rhoi cefnogaeth iddynt tan iddyn nhw ddod o hyd i waith.
Roedd mentor ffoaduriaid arbenigol hefyd yn bresennol i gefnogi unigolion sy’n wynebu rhwystrau cyflogaeth ieithyddol a diwylliannol a bydd y mentor yn parhau i gefnogi’r unigolion hyn.
Roedd 90% o’r bobl a roddodd adborth am y digwyddiad yn dweud ei fod naill ai’n dda neu’n rhagorol.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Rydw i wrth fy modd â llwyddiant y digwyddiad hwn a bod cymaint o bobl wedi manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Sir Ddinbych yn Gweithio.
“Dyma yw diben Sir Ddinbych yn Gweithio - helpu pobl. Mae’r Cyngor yn hynod o falch o’r gwasanaeth hwn sy’n anelu at drechu tlodi drwy gyflogaeth.
“Gyda’r cynnydd mewn costau byw, mae hi’n bwysicach nag erioed i ni fel awdurdod lleol roi’r gefnogaeth rad ac am ddim yma ble bynnag y gallwn.”
Mae cynlluniau ar gyfer y ffair yrfaoedd nesaf ar y gweill a disgwylir y bydd yn cael ei chynnal ym mis Medi 2022.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio ewch I https://www.denbighshire.gov.uk/en/jobs-and-employees/working-denbighshire/working-denbighshire.aspx neu i gael cymorth â chyflogaeth ewch i https://working.denbighshire.gov.uk/