llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2022

Lleoli Swyddog Cefnogi Gweinyddol

Cafodd 'Joe' ei leoli fel Swyddog Cefnogi Gweinyddol. Dyma hanes Joe:

Drwy’r Ganolfan Byd Gwaith, cefais wybod am Sir Ddinbych yn Gweithio. Siaradais ar y ffôn â mentor o Sir Ddinbych yn Gweithio gyda’r nod o ddod o hyd i swydd yn y Sector TG. Cyn pen dim roeddent wedi gofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn ymgeisio am swydd Weinyddol drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio. Yn naturiol, dywedais fod gen i ddiddordeb yn y rôl gan ei fod yn gyfle da i gael profiad gwaith hanfodol mewn amgylchedd swyddfa.

Gan mai hon oedd fy swydd gyntaf mewn swyddfa, roeddwn yn bryderus am ddechrau swydd, ar ben hynny, dechreuais mewn cyfnod pan oedd mwy na deg mil o achosion o Coronafeirws y dydd yn y DU. Roeddwn yn poeni am y swydd ei hun ond hefyd am fod o gwmpas pobl eraill. Drwy gydol fy amser ar leoliad, rwyf wedi cael fy nghefnogi’n uniongyrchol gan fy nghydweithwyr yn ogystal â’m Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio.

Mae fy nghydweithwyr wedi fy helpu i ddeall y swydd yn ogystal â sut maent yn gweithredu’n effeithiol mewn tîm, maen nhw wedi gwneud i mi deimlo’n barod am waith. Mae fy Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio wedi fy helpu i olrhain fy nghynnydd yn y swydd yn ogystal â rhoi clust i wrando pe bai angen.

Y peth gwych am y swydd Dechrau Gweithio yw ei bod wedi fy helpu i gael profiad gwaith gwerthfawr fel fy mod yn barod am y cam nesaf yn fy ngyrfa, sef yn union beth oeddwn ei eisiau o’r swydd. Es i’r coleg i wneud TG ac rwyf wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ymgeisio am swyddi yn y sector TG. Roeddwn wedi tueddu’n flaenorol i fynd drwy’r cyfweliad cyntaf ac yna ar ôl yr ail gyfweliad, cael gwybod eu bod yn fy hoffi ond bod gan rywun arall fwy o brofiad. Mae’r swydd hon wedi fy rhoi mewn amgylchedd swyddfa a phrofi gweithio mewn tîm, ac wedi rhoi hyder i mi wybod y gallaf gyflawni beth bynnag rwyf yn rhoi fy mryd arno. Tuag at ddiwedd fy lleoliad cefais wahoddiad i gyfweliad ar gyfer swydd TG ac wedi’r ail gyfweliad cefais gynnig y swydd. Rwyf yn rhoi’r clod am hyn i’r Cynllun Dechrau Gweithio am ganiatáu i mi gael y profiad roeddwn yn chwilio amdano.

Byddwn wir yn argymell i bobl gymryd mantais o’r Cynllun Dechrau Gweithio gan ei fod yn caniatáu i chi eich datblygu eich hun mewn amgylchedd cefnogol a charedig. Rwyf wir yn credu fod y cyfle hwn wedi bod yn brofiad positif sydd wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus a gwneud i mi deimlo fy mod yn ôl ar y trywydd iawn tuag at yr hyn rwyf eisiau ei gyflawni.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...