llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2024

Datgloi potensial talent niwroamrywiol: Digwyddiad Brecwast ar gyfer Cyflogwyr

Cynhaliwyd digwyddiad rhad ac am ddim gan Sir Ddinbych yn Gweithio ym mis Mehefin ar y cyd â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy, er mwyn rhoi cyfle i fusnesau Sir Ddinbych ddysgu mwy am y manteision sydd gan weithwyr niwrowahanol i’w cynnig.

Mewn byd lle mae 1 ym mhob 7 o bobl yn cael eu nodi yn niwrowahanol, mae’n hanfodol bod busnesau yn mabwysiadu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol ar gyfer pob unigolyn.  Gall deall a rheoli gweithwyr niwroamrywiol brofi’n heriol i gyflogwyr, ond maent hefyd yn cynnig nifer helaeth o gyfleoedd. 

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio, ar y cyd â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy, ddigwyddiad brecwast yn benodol ar gyfer herio rhagdybiaethau a thynnu sylw at fanteision niwroamrywiaeth i fusnesau.

Roedd y digwyddiad yn dathlu sgiliau a chryfderau unigryw unigolion niwrowahanol ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr i gyflogwyr ar sut i gefnogi a gwneud y mwyaf o botensial eu gweithlu niwroamrywiol. 

Bu’r cyflogwyr yn dysgu am yr holl fathau gwahanol o niwroamrywiaeth, er mwyn eu haddysgu sut i gynnig cefnogaeth berthnasol i’w gweithwyr eu hunain, fel bod modd iddynt berfformio’n dda yn eu swydd.

Rhannwyd gwybodaeth hefyd gan Sir Ddinbych yn Gweithio, ochr yn ochr â siaradwyr gwadd o’r GIG, ynghylch dewisiadau addasiadau rhesymol sy’n cael effaith, a bu cyflogwyr yn rhannu eu profiad hwythau am hyn.

Meddai Rachel Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Bu i’r busnesau a’r sefydliadau a fynychodd y digwyddiad hwn ddysgu llawer am niwroamrywiaeth a’r manteision a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â mathau amrywiol o niwroamrywiaeth, yn ogystal â derbyn cyngor ymarferol ynghylch gwneud addasiadau rhesymol er mwyn helpu cydweithwyr i ffynnu, nawr ac yn y dyfodol”.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...