Sioe Deithiol Barod
Cynhaliwyd ein Sioe Deithiol Barod trwy gydol mis Mai fel rhan o fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl.
Bu i ni deithio o gwmpas Sir Ddinbych yn y gobaith o ymgysylltu â thrigolion ac i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn ei wneud.
Dechreuom ar ein Sioe Deithiol ym Meddygfa Plas Meddyg yn Rhuthun a gweithio ein ffordd fesul wythnos gan ymweld â chanolfannau iechyd, canolfannau siopa a llyfrgelloedd. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys Canolfan Iechyd Llangollen, Llyfrgell Prestatyn, Canolfan y Rhosyn Gwyn yn y Rhyl a Morrisons yn Ninbych.
Ein nod oedd cyrraedd cymaint o drigolion Sir Ddinbych â phosibl sydd efallai heb fynediad at gludiant cyhoeddus neu sydd heb glywed am ein gwasanaethau o’r blaen. Roeddem eisiau ymweld â nhw (gobeithio) mewn ardal sy’n agosach iddyn nhw.
Bu i nifer o’r trigolion gofrestru ar gyfer ein gwasanaethau i weld sut allwn ni eu helpu ar eu taith i gyflogaeth.