llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2024

Gofalwr ifant yn sicrhau cyflogaeth llawn amser ar ôl ymgymryd â lleoliad gwaith llwyddiannus

Mae Mali, gofalwr ifanc ymroddedig, wedi trosglwyddo i gyflogaeth llawn amser ar ôl ymgymryd â lleoliad Dechrau Gweithio gwerthfawr Sir Ddinbych yn Gweithio. Dechreuodd siwrnai Mali gyda mynychu cwrs hyfforddi ac ymgymryd â phrofiad gwaith “Blas ar Ofal” a wnaeth ei harwain at sicrhau lleoliad 12 wythnos yng Nghartref Gofal Dolwen.

Wedi’i chefnogi gan ei Mentor Dechrau Gweithio, bu i Mali gwblhau’r broses ymgeisio am gontract 24 awr parhaol yn Nolwen, a derbyniodd y swydd ar ei phen-blwydd yn 18 oed.   Llwyddodd perfformiad eithriadol Mali yn ystod ei lleoliad i sicrhau swydd barhaol iddi, gan wneud cam sylweddol tuag at yrfa ffyniannus.

Mae ymdrechion cydweithredol Sir Ddinbych yn Gweithio a’r GIG wedi galluogi Mali i gael profiad amhrisiadwy yn ei sector dymunol, gyda’r cynllun Dechrau Gweithio yn parhau i ymrwymo i ddarparu lleoliadau gwaith o ansawdd uchel sy’n darparu canlyniadau cadarnhaol i’r holl gyfranogwyr.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Mali: 

“Wrth gwblhau’r Cynllun Dechrau Gweithio, rwyf wedi cael profiad o weithio yn y sector gofal a fydd yn fuddiol i mi er mwyn datblygu yn fy ngyrfa a pharhau i ddysgu.  Heb y Cynllun Dechrau Gweithio, ni fyddwn i wedi cael y cyfleoedd yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i’w cael, fel yr hyfforddiant yr wyf wedi’i gwblhau.  Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio wedi bod yn gymorth mawr i mi wrth ddechrau ar fy nhaith yn y sector gofal, ac oherwydd hyn, rwy’n argymell yn fawr bod pobl ifanc yn defnyddio’r rhaglenni hyn”.

Dywedodd Alison Hay, Swyddog Comisiynu:

“Mae stori Mali yn enghraifft wych o’r pethau cadarnhaol am fod yn ofalwr sy’n oedolyn ifanc. Mae ein Cynllun Dechrau Gweithio wedi rhoi Mali ar ei llwybr gyrfa dewisol ac wedi rhoi cymorth iddi i ffynnu a llwyddo.  Mae Gofalwyr Ifanc fel Mali yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy o’u rôl gofalu a gallent wneud gweithwyr arbennig!”  

Dywedodd Racheal Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Rydym yn falch iawn o fod yn dyst i lwyddiant Mali, sy’n tynnu sylw at effeithiolrwydd ein Cynllun Dechrau Gweithio.  Drwy gynnig cymorth wedi’i deilwra a pharu cyfranogwyr â chyfleoedd addas, rydym yn gallu hwyluso profiadau gwerthfawr sy’n paratoi’r ffordd at gyflogaeth hirdymor.  Mae siwrnai Mali o ymgymryd â lleoliad gwaith i sicrhau cyflogaeth llawn amser yn enghraifft o botensial ein dull cydlynol at ddatblygu'r gweithlu.” 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...