llais y sir

Llais y Sir: Hydref 2024

Gwarchodfa natur Rhuthun yn ennill gwobr Gymreig

Mae gwarchodfa natur yn Rhuthun wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad i gefnogi natur lleol.

Gwobrwywyd Gwarchodfa Natur Stryd Llanrhydd yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2024 a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Fenni.

Yn wreiddiol fe roddodd Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ynghyd â Thîm Newid Hinsawdd y Cyngor a gwirfoddolwyr fywyd newydd i hen gae’r ysgol drwy nesaf i Ysbyty Rhuthun yn 2022, ar gyfer natur ac er mwyn i’r gymuned leol ei fwynhau.

Fe dorchodd plant ysgol lleol eu llewys i helpu i blannu bron i 800 o goed ar y safle yn rhan o ymdrech barhaus y Cyngor i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.

Gan gadw at thema ysgolion, adeiladwyd ardal ystafell ddosbarth awyr agored ar y safle i helpu plant i ddysgu am fioamrywiaeth ac i roi help llaw i breswylwyr y nos lleol.

Mae’r ystafell ddosbarth wedi’i hadeiladu o goed gan grefftwr lleol, Huw Noble, sydd wedi cynnwys ‘To i Ystlumod’ a ddyluniwyd yn arbennig i ddarparu nodweddion y mae ystlumod eu hangen i glwydo yn ystod y dydd.

Fe grëwyd llwybrau drwy ddolydd blodau gwyllt ar y safle, a chrëwyd pwll i gefnogi natur ac fe ychwanegwyd meinciau picnic i’r gymuned eu defnyddio. 

Mae’r safle wedi bod yn cael ei rheoli gan Geidwaid Cefn Gwlad ers 2022 gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr drwy Natur Er Budd Iechyd. 

Am y tro cyntaf, mae Gwarchodfa Natur Stryd Llanrhydd wedi cael ei ystyried yn Lefel 4 ‘Ffynnu’ yng ngwobrau ‘It’s Your Neighbourhood’ Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Chymru yn ei Blodau 2023.  Mae’r maes hwn yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau yn gynllun i grwpiau garddio gwirfoddol cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau a glasu eu hardal.

Dywedodd yr Uwch Geidwad Cefn Gwlad, Jim Kilpatrick:  “Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi helpu’r safle gwych yma ar gyfer natur a chymuned Rhuthun i gael eu cydnabod, drwy waith caled yr holl wirfoddolwyr, yn hen ac ifanc, ochr yn ochr â’n ceidwaid. 

Mae’n datblygu’n dda iawn ers i ni ddechrau yn 2022, mae’r dolydd yn ffynnu yn eu tymor ac mae’r coed sydd wedi’u plannu yn cryfhau.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r gwirfoddolwyr a’r staff wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i’r hen gae ysgol yn Rhuthun drwy eu gwaith ymroddgar yn gwella bioamrywiaeth a’r ardal ar gyfer y gymuned. Mae’n wych eu bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon am eu gwaith caled.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...