Cydnabod gwarchodfa natur yn y Rhyl mewn gwobrau cenedlaethol
Mae gwarchodfa natur yn y Rhyl wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei chyfraniad at gynnal natur leol.
Gwobrwywyd Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2024 yn ddiweddar yn y Fenni.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr gyda chefnogaeth Natur er Budd Iechyd wedi bod yn gweithio i wella’r safle – ar gyfer natur ac er mwynhad y gymuned leol.
Mae’r gwaith datblygu parhaus wedi bod yn gyfrifol am greu pwll a pherllan gymunedol newydd, gwelliannau i’r llwybrau cerdded, cael gwared â choed marw a thacluso’r mannau i weld yr olygfa o gwmpas y prif bwll.
Yn ogystal, mae ardaloedd yn y warchodfa natur wedi eu gwella i annog mwy o lygod pengrwn y dŵr i ymgartrefu ar y safle.
Mae Ceidwaid a gwirfoddolwyr yn cydweithio’n rheolaidd i ddysgu crefftau cefn gwlad fel plygu gwrychoedd ar y safle i geisio gwella cynefinoedd ar gyfer natur.
Gan ymgeisio am y tro cyntaf, mae Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield wedi’i dosbarthu fel Lefel 4 ‘Ffyniannus’ o dan wobrau’r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol a Cymru yn ei Blodau 2023 Eich Cymdogaeth. Mae’r maes hwn yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau yn gynllun i grwpiau garddio gwirfoddol cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau a glasu eu hardal.
Eglurodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Vitor Evora: “Rydym yn falch iawn bod gwaith ein gwirfoddolwyr ochr yn ochr â’n tîm ym Mhwll Brickfield wedi ei gydnabod, yn arbennig o ystyried yr holl brosiectau’r ydym wedi bod gweithio arnyn nhw yma’n ddiweddar. Mae’n fan gwych ar gyfer natur ac yn safle cymunedol hyfryd ar gyfer y Rhyl, ac rydym yn gobeithio parhau i’w wella yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r gwirfoddolwyr a’r staff wedi gwneud gwahaniaeth positif go iawn i Bwll Brickfield drwy eu gwaith ymroddgar yn gwella bioamrywiaeth a’r ardal ar gyfer y gymuned. Mae’n ardderchog eu bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon am eu gwaith caled.”