llais y sir

Llais y Sir: Hydref 2024

Mae’n amser FFYNGAU!

Efallai eich bod yn meddwl bod natur yn dechrau cysgu wrth i’r diwrnodau fyrhau a’r tywydd oeri. Ond mae tywydd llaith a chlaear yn berffaith ar gyfer deffro ein ffrindiau ffyngaidd. Mae’n bosibl y byddwch yn dechrau sylwi ar nifer fawr o fadarch tra byddwch yn cerdded yng nghefn gwlad, ac yn syfrdanu pa mor wahanol ac amrywiol y gallant fod. Mae presenoldeb madarch a ffyngau eraill yn fuddiol iawn i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth, a gallant hefyd fod yn arwydd da bod ecosystem (cymuned gysylltiedig o wahanol rywogaethau) yn iach.

Madarch ar bren marw, Coed Pen y Pigyn, Corwen

Nid yw ffyngau yn blanhigion

Arferid meddwl bod ffyngau yn fath o blanhigyn gan fod ganddynt gylch oes tebyg. Fodd bynnag, maent bellach yn cael eu diffinio fel teyrnas fiolegol ar wahân, yn yr un ffordd ag y mae anifeiliaid a phlanhigion hefyd yn eu teyrnasoedd biolegol eu hunain.

Beth mae ffyngau yn ei wneud?

Mae ffyngau’n chwarae rhan hanfodol ym myd natur, ac mae bodau dynol wedi bod yn dibynnu arnyn nhw am fwyd a meddyginiaeth am lawer o flynyddoedd. Mae gan ffyngau rôl hanfodol wrth ddadelfennu deunyddiau; er enghraifft, troi pren marw yn faethynnau y gellir eu hamsugno gan goed neu blanhigion eraill. Mae gan lawer o ffyngau berthnasoedd symbiotig â choed (perthynas sydd â buddion i’r ddwy rywogaeth), lle maent yn darparu maethynnau i’r goeden ac mae’r goeden yn eu cynnal nhw. Credir na fyddai bywyd ar y ddaear yn bodoli oni bai bod gennym rywogaethau ffyngaidd – maent mor bwysig â hynny!

Ffyngau a Newid Hinsawdd

Mae gan ffyngau ran i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd (o ganlyniad i effaith pobl yn cynhyrchu gormod o garbon atmosfferig). Rydym yn gwybod bod ffyngau yn storio carbon, felly mwya’n y byd o fadarch sydd, mwya’n y byd o garbon sy’n cael ei storio. Mae gan rai rhywogaethau o ffyngau sy’n byw dan y ddaear y potensial i storio gigatunelli (biliwn o dunelli) o garbon bob blwyddyn.

Sut y gallaf fod o gymorth i ffyngau?

  • Gellwch gadw ardal wyllt neu ardal natur ar lecyn llaith yn eich gardd
  • Gellwch dynnu llun unrhyw fadarch a welwch pan fyddwch yn ymweld ag ardaloedd natur y sir neu ddolydd flodau gwylltion dros yr hydref
  • Cymerwch ran ym mhrosiect Cyfrif Capiau Cwyr Plantlife 
  • Edmygwch y ffyngau yr ydych yn eu canfod ym myd natur, ond peidiwch â’u codi – maent yn gweithio’n galed i gynnal natur yn union lle maen nhw.

 

Cap Cwyr Ymenyn a ganfuwyd ar un o’n dolydd blodau gwylltion

Madarch ar laswelltir

Cap Cwyr y Parot yn cuddio ar Gaer Drewyn

Diogelwch yn Gyntaf

Mae yna lawer o rywogaethau o fadarch, a heb brofiad treiddgar o’u hadnabod, gall fod yn anodd iawn gwybod y gwahaniaeth rhwng ffwng niweidiol a ffwng y gellir ei fwyta. Felly, argymhellir bob amser i beidio fyth â bwyta madarch gwyllt oni bai eich bod wedi derbyn hyfforddiant neu fod mycolegydd neu fforiwr ffyngau profiadol gyda chi.

Am fwy o wybodaeth

I ddarganfod sut rydym yn gweithio i leihau ein hallyriadau carbon a chefnogi adferiad natur yn y sir, ewch i'n tudalenau Newid Hinsawdd ac Ecolegol ar ein gwefan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...