llais y sir

Llais y Sir: Hydref 2024

Cyflwyno dau gae pêl-droed newydd

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith i osod dau gae pêl-droed i blant iau yng Nghae Hywel, Dinbych Uchaf.

Dyrannwyd cyfanswm o £5,977.44 i ariannu’r prosiect gan y Cyllid Grant Symiau Gohiriedig, cyllid arbennig ar gyfer gwella mannau agored a meysydd chwarae. 

Mae’r gymuned wedi bod yn defnyddio’r man agored hwn yn Ninbych fel cae hamdden am sawl blwyddyn, sydd eisoes yn cynnwys ardal chwarae i blant gyda gwifren sip, rhwyd pêl fasged ac ardal laswellt agored. 

Ymgynghorodd staff y Cyngor a Chynghorwyr lleol â phreswylwyr i weld beth fyddai’r opsiwn gorau ar gyfer y cae hamdden i’r dyfodol. Nodwyd bod angen man agored mawr a chyfleuster lle gall plant chwarae pêl-droed ac ymgymryd â gweithgareddau ymarfer corff.

O ganlyniad, mae tîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor, Cynghorwyr Lleol a’r cwmni peirianneg sifil lleol, Jones Bros, sy’n gweithio ar draws y DU, wedi gweithio gyda’i gilydd ar brosiect i ddarparu dau gau pêl-droed safonol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghyd â physt gôl yng Nghae Hywel.

Mae’r cwmni peirianneg sifil hefyd wedi rhoi a gosod bwrdd picnic sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ar y safle.  Bydd y nodwedd hon, ynghyd â’r caeau pêl-droed, yn trawsnewid yr ardal hon a arferai fod yn ardal laswellt agored i fod yn gyfleuster aml-ddefnydd i’w fwynhau gan y gymuned leol.

Dywedodd Patrick Williams, cydlynydd prosiect Jones Bros: “Rydym ni fel cwmni o Sir Ddinbych yn falch iawn o gyfrannu at y gymuned leol ac yn teimlo y bydd hyn yn darparu gofod diogel i bobl gymdeithasu a bod yn egnïol”.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma enghraifft wych o’r pethau y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chynghorwyr lleol a siarad yn agored â’r gymuned.

"Hoffwn ddiolch i Jones Bros am eu rhodd garedig i sicrhau fod bob aelod o’r gymuned yn gallu defnyddio’r ardal hon.

“Mae prosiectau fel hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau fod gan gymunedau fynediad at fan diogel i chwarae ac ymgymryd â gweithgareddau ymarfer corff”. 

O’r chwith i’r dde: Mr Patrick Williams - Jones Bros, Y Cyng Pauline Edwards, Y Cyng Delyth A Jones, Neil Jones - Cydlynydd Ardal y Cyngor

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...