llais y sir

Llais y Sir: Mai 2021

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Tirwedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Penderfynodd Partneriaeth yr AHNE roi Gwobr Tirwedd yr AHNE 2021 i Ysgol y Foel, Cilcain, i gydnabod cyflawniad aruthrol yr ysgol gyda’i phrosiect datgarboneiddio. Mae’r ysgol wedi’i hailfodelu’n llwyr ac mae’r adeilad erbyn hyn yn un carbon niwtral.

Mae yna 84 o baneli solar wedi’u gosod ac mae’r rhain yn dal golau U-V ac yn ei drawsnewid yn drydan defnyddiol drwy wrthdroydd mawr. Mae’r ysgol bellach yn gwneud ei thrydan ei hun i bweru goleuadau, i wefru cyfrifiaduron ac i redeg system wresogi ffynhonnell aer. Mae system fatri newydd yn storio ynni a gynhyrchir yn ystod y gwyliau a phan fo’r ysgol ar gau, ac yn storio’r ynni ar gyfer y tymor ysgol. Mae’r ysgol rŵan yn cynhyrchu mwy o ynni nag y mae arni ei angen ac felly mae’n allforio’r ynni dros ben i’r Grid Cenedlaethol.

 

Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn rhan o bob cam o’r dysgu am newid hinsawdd a phwysigrwydd symud tuag at ffordd fwy cynaliadwy o fyw a gweithio. Llwyddodd yr ysgol i gwrdd â’r rhan fwyaf o’r costau atgyweirio yn defnyddio grant Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi cefnogi’r prosiect, ar ffurf benthyciad sy’n cael ei dalu’n ôl yn defnyddio’r arbedion sydd wedi’u gwneud yn sgil y biliau ynni.

Yn ogystal â’r prosiect datgarboneiddio mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy hefyd wedi cyfrannu at greu dosbarth awyr agored. Bydd y dosbarth yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion lleol eraill pan fyddan nhw’n dod i ymweld â’r ysgol i ddysgu am y llwybr datgarboneiddio tuag at fod yn ysgol garbon sero-net ac i astudio’r amrywiaeth o blanhigion a blodau a geir ar safle’r ysgol (pan fydd y cyfyngiadau yn caniatáu) – gan weld sut y gallan nhw, fel Ysgol y Foel, ddod yn ysgol garbon sero-net a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dyma wobr flynyddol a roddir gan yr AHNE i gymuned, unigolyn neu fusnes sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i dirwedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac eleni mae’r AHNE yn falch o weld bod y wobr yn cydnabod gwaith Ysgol y Foel – ysgol yng nghanol yr AHNE sy’n arwain y ffordd o gyda’r mater pwysig yma.

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol y Foel a phawb sy’n rhan o’r prosiect.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yma: https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/the-sustainable-development-fund/?lang=cy

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...