Cyfrif i lawr i'r etholiad
Mae paratoadau terfynol yn cael eu gwneud cyn etholiadau'r cyngor sir a chynghorau tref, dinas a chymuned ddydd Iau, 5 Mai.
Dylai preswylwyr cymwys fod wedi derbyn eu cardiau pleidleisio gyda manylion lleoliad eu gorsafoedd pleidleisio. Gall pobl bleidleisio rhwng 7am a 10pm.
Unwaith y bydd gorsafoedd pleidleisio ar gau, bydd y blychau etholiad yn cael eu trosglwyddo i'r ganolfan gyfrif lle bydd y papurau pleidleisio'n cael eu gwirio dros nos.
Bydd y cyfrif ar gyfer yr etholiadau yn dechrau ddydd Gwener, 6 Mai am 9 o’r gloch gydag etholiadau'r cyngor sir; dilynir hyn gan y pleidleisiau ar gyfer etholiadau'r cynghorau tref, dinas a chymuned.
Bydd holl ganlyniadau'r etholiad yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan >>> http://www.denbighshire.gov.uk/etholiadau.
