Gwrthdaro yn yr Wcráin: Sut y gallwch helpu

Mae'r gwrthdaro presennol yn yr Wcráin yn dorcalonnus, gyda miloedd o bobl yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi yn ofni diogelwch eu teuluoedd ac mae'r argyfwng dyngarol yn tyfu gyda nifer fawr o bobl angen cymorth brys.
Mae'r Cyngor wedi dechrau gweithio gyda sefydliadau partneriaeth i gefnogi y rhai y mae'r gwrthdaro wedi effeithio arnynt ac mae teuluoedd bellach wedi dechrau cyrraedd i fyw gydag aelwydydd Lletyol. Mae Tîm Ailsefydlu Sir Ddinbych y DU yn gweithio gyda phawb sy'n gysylltiedig i gefnogi ailsefydlu dros y misoedd nesaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelwyd Lletyol, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma >> https://www.gov.uk/register-interest-homes-ukraine.
Gall unrhyw grwpiau gwirfoddol neu unigolion lleol sy'n dymuno cynnig mathau eraill o gymorth gysylltu â ni drwy e-bostio ukresettlement@sirddinbych.gov.uk
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i fusnesau am gymorth.
Isod, ceir dolen ar gyfer unrhyw fusnes neu sefydliad a all gynnig help gyda'r canlynol:
- Llety ar raddfa fawr i ffoaduriaid a'u teuluoedd, fel gwestai a pharciau gwyliau
- Cludiant, fel coetsis a bysiau mini (efallai na fydd angen i chi ddarparu gyrwyr), i fynd â phobl i'w cartrefi newydd
- Cyflenwadau fel dillad, pethau ymolchi ac eitemau ar gyfer y mislif
- Gwersi iaith
- Cyflogaeth a hyfforddiant
- Cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd
https://llyw.cymru/cofrestrwch-fusnes-neu-sefydliad-i-helpu-ffoaduriaid-o-wcrain-syn-dod-i-gymru.
Fel Cyngor, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd ei angen yn ystod yr argyfwng parhaus hwn.