Diddordeb mewn gyrfa gofal cymdeithasol?
Mae ymgyrch recriwtio wedi cael ei lansio i annog mwy o bobl i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gofal cymdeithasol gwag, yn enwedig yn ystod Covid pan gynyddodd y galw am ofal cymdeithasol.
Nawr mae ymgyrch o'r enw Gwnewch i Bobl Wenu wedi'i lansio i godi proffil gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol ac i hysbysebu'r swyddi gweigion presennol sy'n bodoli yn y sir.
Bydd yr ymgyrch hon yn cynnwys cymysgedd o hysbysebion ar drafnidiaeth gyhoeddus, baneri mewn lleoliadau cymunedol, hysbysebion yn y cyfryngau lleol, gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol a brandio ar rai o gerbydau’r Cyngor. Bydd y Cyngor hefyd allan mewn lleoliadau yn cynnal sioeau teithiol recriwtio a gweithdai.
Mae'r Cyngor hefyd wedi ailwampio ei wybodaeth ar y wefan ac wedi cynnwys astudiaethau achos fel fideos, mewn ymgais i annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn. Mae adran cwestiynau cyffredin hefyd wedi'i darparu i roi atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf rheolaidd a dderbyniwyd.
Dywedodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau: “Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud yn fawr iawn â gwerthu manteision gweithio i'r Cyngor a dechrau gyrfa mewn gofal cymdeithasol.
“Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd yn fraint wirioneddol ac mae ein timau yn gwneud i bobl wenu bob dydd. Mae hyn yn eu gwaed. Mae’r awydd i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl, ond cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt mewn amrywiaeth o leoliadau.
“Nid oes angen cymwysterau bob amser ac mae digon o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau cymwysterau drwy’r gweithle. Mae'r Cyngor wedi rhoi rhaglen gymorth ar waith ar gyfer yr holl weithwyr ac mae manteision sylweddol i weithio i'r Cyngor. Maent yn cynnwys polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac agwedd hyblyg at batrymau sifft.
“Yr hyn sydd ei angen yn fwy na dim yw’r gallu i wneud i bobl wenu, i gael empathi ac i fod â natur ofalgar. Bydd y gweddill yn disgyn i'w lle”.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ymweld â’r wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi-gofal.
Mae yna hefyd fideos gan bobl sy'n gweithio yn ein sector gofal ar ein gwefan.
Dyma stori Catherine >>>
Mae yna fwy o storiau ar ein gwefan - mae'n werth i chi edrych arnyn nhw os ydych yn meddwl dod i weithio efo ni..