Bwth ymweld mewn cartref gofal yn caniatáu i ffrindiau weld ei gilydd eto
Mae bwth ymweld wedi’i osod mewn cartref gofal yn Sir Ddinbych.
Dyluniwyd ac adeiladwyd y bwth, sydd wedi’i osod yng nghartref gofal Dolwen yn Ninbych, gan yr aelod staff Erfyl Jones, sy'n weithiwr cefnogi yn y cartref.
Mae’r bwth wedi caniatáu i drigolion y cartref gofal, nad ydynt wedi gallu cymysgu ers mis Rhagfyr, i ddod at ei gilydd.
Unwaith y bydd y cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal wedi’u newid, gall teuluoedd a ffrindiau sy’n ymweld ag anwyliaid ddefnyddio'r bwth.
Dwy o drigolion Dolwen, Olwen Lloyd a Janet Kenyon Thompson, oedd y cyntaf i ddefnyddio’r bwth ar ôl iddo gael ei osod y mis diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Hoffwn ddiolch i Erfyl am ei waith yn dylunio ac yn adeiladu’r bwth ymweld, sydd wedi bod yn hwb mawr i’r trigolion.
“Mae wedi galluogi’r trigolion i weld ffrindiau o wahanol rannau o'r cartref, sydd wedi bod yn cael eu cadw ar wahân am resymau diogelwch. Rwy’n falch o weld faint o bleser y mae wedi’i roi i’n trigolion.
“Pan fydd y rheoliadau ynghylch ymweld â chartrefi gofal yn newid, bydd y bwth hwn yn rhoi cyfle i ffrindiau a theuluoedd ymweld â'u hanwyliaid mewn ffordd ddiogel."