Bydd mynedfa hafan natur yn cael ei ailfywiogi’r haf hwn.
Mae gwaith wedi dechrau ar roi hwb i fioamrywiaeth mynedfa Coed y Morfa ym Mhrestatyn.
Mae Ceidwaid Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr Natur Er Budd Iechyd yn ehangu’r ddôl flodau gwyllt ar y dde wrth i chi ddod i mewn i barc Coed y Morfa.
Mae’r grŵp yn ehangu’r ddôl drwy glirio’r prysg ar yr ochr uchaf iddi a pharatoi’r pridd ar gyfer cymysgedd o flodau gwyllt a glaswellt, yn cynnwys 25 o rywogaethau gwahanol fel briallen Fair sawrus, cribell felen, blodau'r brain, gwygbys, cynffonwellt y maes a pheiswellt coch.
Bydd yr ardal hon wedyn yn ategu’r safle blodau gwyllt wrth ymyl y ffordd fynediad.
Bydd ehangu’r ardal flodau gwyllt yn helpu i roi hwb i bryfed peillio a bywyd gwyllt Coed y Morfa sy’n bwydo ar bryfaid.
Mae creu safleoedd blodau gwyllt yn bwysig oherwydd ers y 1930au mae’r DU wedi colli 97% o’i gynefinoedd dolydd blodau gwyllt, sydd wedi cael effaith ar bryfed peillio hanfodol fel gwenyn sy’n helpu i ddod â bwyd i aelwydydd.
Meddai Sasha Taylor, Ceidwad Cefn Gwlad: “Mae creu ardaloedd fel hyn yn bwysig gan ei fod yn darparu priffordd i bryfed ac anifeiliaid ar draws y sir i helpu i ailboblogi safleoedd eraill gerllaw drwy gludo hadau o un lle i’r llall.
“Mae hefyd yn wych i’r gymuned gan y byddan nhw’n gweld yr ardal hon yn darparu llinell fywyd i flodau sy’n galluogi cenedlaethau’r dyfodol i fwynhau’r safle ochr yn ochr â’r gefnogaeth gadarnhaol mae’r ardal yn ei rhoi i natur leol.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae dolydd blodau gwyllt yn hanfodol ar gyfer cefnogi natur leol sydd wedi dioddef effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Wrth i ni gyflwyno mwy o flodau gwyllt i’r tir byddan nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.
“O gofio’r amser sydd arnyn nhw ei angen i sefydlu, bydd ein holl ddolydd er lles preswylwyr a bywyd gwyllt i’w mwynhau nawr ac, yn bwysicach fyth, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ym Mhrestatyn.”