Mae gwaith wedi dechrau ar greu parc natur newydd yn Sir Ddinbych.

Mae cam cyntaf y gwaith o ddatblygu ac adfywio coetir a pharcdir o amgylch Castell Bodelwyddan wedi dechrau.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU, fe fydd y gwaith adnewyddu ym Mharc Bodelwyddan yn golygu y bydd y parcdiroedd, coetiroedd a pherllannau yn ailagor i’r cyhoedd unwaith eto.

Mae bron i filltir a hanner o lwybrau calchfaen newydd sy’n addas i bobl anabl eu defnyddio wedi cael eu datblygu ar draws tir o waelod y parcdir, gan gysylltu i fyny at y coetir.

Fe fydd y llwybrau yma’n gweu trwy ardaloedd o goetir a dolydd blodau gwyllt sydd newydd eu plannu er mwyn helpu bioamrywiaeth leol, i gyd-fynd â’r golygfeydd o Gastell Bodelwyddan a Dyffryn Clwyd. Mae hen berllan wedi cael ei hagor er mwyn cerdded drwyddi hefyd, fe fydd byrddau dehongli yn cael eu lleoli ar hyd y llwybrau er mwyn rhoi eglurhad am y tir gerllaw ac fe fydd seddi newydd yn cael eu darparu.

Fe fydd gwrychoedd yn cael eu plannu ar hyd ffensys ffiniol newydd i gefnogi natur lleol ar y parcdir. Fe fydd mynediad yn cael ei ddarparu i yr o geirw iwrch y parcdir mewn mannau allweddol yn y ffensys ffiniol newydd.

Mae gwaith wedi cael ei wneud i gadw’r ffosydd hanesyddol o’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mhen uchaf y parcdir gyda ffensys newydd i amddiffyn y safle.

Fe fydd llwybrau’r coetir hefyd yn cael eu hadnewyddu gyda thopin calchfaen newydd i wella mynediad i ymwelwyr i Barc Bodelwyddan, ynghyd ag arwyddion newydd yn yr ardal a’r parcdir.

Mae ffensys amddiffynnol arbennig wedi cael eu hadeiladu yn y coetir i amddiffyn ardaloedd o goed a phlanhigion yn cynnwys yr hen Berllan Fictoraidd rhag ceirw er mwyn i rywogaethau penodol ffynnu’n gryfach wrth symud ymlaen.

Mae ardal parcio newydd wedi cael ei greu ger y fynedfa waelod oddi yr A55 i bobl sy’n ymweld â’r parc. Mae cam cyntaf y gwaith fod i gael ei gwblhau ym mis Mai.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Rydym ni’n falch iawn o weld bod Parc Bodelwyddan yn dechrau siapio ac rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu’r cyhoedd yn ôl i’r ardal wych yma i gefnogi eu lles corfforol a meddyliol trwy gerdded drwy amrywiaeth mor eang o barcdir.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Fe fydd adnewyddu’r parcdir yn rhoi cefnogaeth hollbwysig y mae ein bywyd gwyllt lleol ei angen i oroesi wrth symud ymlaen a bydd hefyd yn rhoi lle gwych i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Ddinbych i ymweld i brofi’r natur sydd gan ein Sir i’w gynnig.”