llais y sir

Llais y Sir: Medi 2021

Natur er budd Iechyd

Wrth i’r genedl wynebu heriau cynyddol i gadw’n iach, un o’r meddyginiaethau gorau, a mwyaf syml yw mynd allan i’r awyr agored. Mae Sir Ddinbych yn gartref i fannau gwyrdd o ansawdd uchel, a nid yn y mynyddoedd yn unig. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rheoli nifer o fannau gwyrdd gyda chysylltiadau i ardaloedd trefol cyfagos, ble mae rhaglen Natur er budd Iechyd wedi bod yn rhedeg ers 2018. Mae’r prosiect Natur er budd Iechyd yn darparu cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r awyr agored drwy deithiau cerdded a gweithgareddau cadwraeth bywyd gwyllt, yn ogystal â sesiynau crefft, yn Y Rhyl, Prestatyn, Dinbych, Llangollen a Chorwen. Gohiriwyd gweithgareddau gwirfoddoli am y rhan helaeth o’r flwyddyn ddiwethaf oherwydd pandemig Covid-19, ond ers ailgychwyn y sesiynau ym mis Mai eleni, maent wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r grwpiau wedi gweld llwyddiannau anhygoel wrth i bobl ymdopi â materion iechyd, dod yn fwy heini, dygymod â cholled, ac yn fwy na dim, gwneud ffrindiau newydd.

Gwirfoddolwyr ar ddiwrnod hyfforddi pladuro yn Y Rhyl

Mae’r sesiynau natur a chadwraeth yn Y Rhyl a Phrestatyn wedi canolbwyntio ar gynnal prosiectau sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn cynnwys rheoli llystyfiant mewn ardaloedd lle plannwyd coed yn ddiweddar, a sicrhau bod ardaloedd blodau gwynt yng Nghoed y Morfa ym Mhrestatyn yn parhau i ffynnu. Mae sesiynau yn Ninbych wedi ailddechrau’n ddiweddar, gyda chyfleoedd i wneud gwaith cadwraeth gwirfoddol ym Mhencoed. Yn Y Rhyl a Phrestatyn, creodd y gwirfoddolwyr erddi bach o berlysiau, gan eu haddurno a mynd â hwy gartref gyda nhw. Fe wnaeth y cyfranogwyr hefyd fwynhau adeiladu gorsafoedd wedi eu codi i fwydo adar ar gyfer Pwll y Brickfield yn Y Rhyl. Yn fwy diweddar, cynhaliwyd gweithdai gwehyddu helyg yn Y Rhyl a Phrestatyn. Fe wnaeth pawb a fynychodd fwynhau creu eu hambwrdd tensiwn Catalanaidd eu hunain! Dysgodd y gwirfoddolwyr am yr arfer amaethyddol traddodiadol o bladuro, a thorri un o’n dolydd yn Y Rhyl, dan arweiniad hyfforddwr lleol. Yn ogystal â hyn, yn ystod teithiau tywysedig o Wlypdiroedd Prestatyn, esboniodd ein Cydlynydd Prosiect Pori beth oedd y broses o archwilio da byw gyda gwartheg Belted Galloway. Drwy hyn, mae gwirfoddolwyr wedi ennill sgiliau gwerthfawr y gellid eu defnyddio yn ystod cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Mae prosiect parhaus Celf mewn Natur wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gyflwyno pobl newydd i’r prosiect drwy sesiynau crefft a’r thema bywyd gwyllt. Roedd sesiwn printio syanoteip gyda dail yn llwyddiant arbennig. Mae’r sesiynau Dewch i Gerdded Sir Ddinbych wedi ailddechrau ac yn cael eu cynnal bob dydd Gwener, wedi eu cydlynu gan Katrina Day, Swyddog Lles Cymunedol. Drwy gymryd rhan yn y sesiynau, mae cyfranogwyr wedi gweld gwelliannau yn eu hiechyd, gan gynnwys brwydro diabetes math 2 a phwysedd gwaed uchel, lleihau’r perygl o strôc a thrawiad ar y galon a gwella lles meddyliol.

Mae Steve Fenner wedi bod yn gwirfoddoli gyda phrosiect Natur er Budd Iechyd ers y cychwyn, wedi iddo fod yn rhan o’r gwaith yng Nghoed y Morfa ym Mhrestatyn ers 2017. Yn ddiweddar mae wedi mynychu sesiynau gwirfoddoli gan gynnwys pladuro a gwehyddu helyg ( yn y llun), yn ogystal â nifer o dasgau cadwraeth eraill yng Nghoed y Morfa. “Rwy’n hoffi bod allan, cyfarfod pobl newydd a gwneud gweithgareddau corfforol. Mae’n braf fod rhywbeth i’w wneud yn y dref sy’n hawdd i gael ato.”

Mae gennym nifer o weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer gweddill yr haf, gan gynnwys teithiau cerdded adar ac ystlumod, sesiwn pladuro arall yn Ninbych, rhagor o sesiynau celf a thasgau cadwraeth o amgylch y safleoedd. Bydd Dewch i Gerdded Sir Dinbych yn parhau: mae’n ffordd wych i grwydro’ch ardal leol tra’n cyfarfod pobl newydd. Hoffech chi ymuno â ni mewn sesiwn Natur er budd Lles yn y dyfodol? Cysylltwch â NaturErBuddIechyd@sirddinbych.gov.uk (NatureForHealth@denbighshire.gov.uk) neu ffoniwch 01824 712757 i gael gwybodaeth ynglŷn â chyfleoedd yn Y Rhyl, Prestatyn, Dinbych, Llangollen a Chorwen.

Mae Natur er budd Iechyd yn brosiect ar y cyd rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych. Mae’r digwyddiadau Celf Natur yn brosiect ar y cyd rhwng Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Sir Ddinbych sy’n Deall Dementia a’r Prosiect Natur er budd Iechyd. Ariannwyd y sesiynau yma gan Grant o dan arweiniad Cymuned Ymwybodol o Ddementia Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC).

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...