llais y sir

Llais y Sir: Medi 2021

Prif Weithredwr newydd i'r Cyngor

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd.

Mae Graham Boase, a oedd yn Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus y Cyngor, wedi'i benodi i'r rôl.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Mae hwn yn benodiad gwych i Sir Ddinbych a hoffwn i a’r aelodau longyfarch Graham a’i groesawu i’w rôl newydd ar ran ein staff a thrigolion y sir.

“Roedd yna broses dethol hynod o drylwyr gyda nifer o ymgeiswyr cryf yn sefyll allan ac wedi rhoi perfformiad o radd uchel iawn.

“Mae Cyngor Sir Ddinbych yn un o’r cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac rydym nawr yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’n Prif Weithredwr newydd i barhau â’r llwyddiant hwn i’r dyfodol.”

Dywedodd Mr Boase: “Rwy’n gyffrous iawn ar ddod yn Brif Weithredwr y Cyngor gwych hwn, ar ôl dechrau gweithio i Sir Ddinbych mor bell yn ôl â 1996.

Rwy’n hynod ddiolchgar i'r aelodau etholedig am ddangos bod ganddynt ffydd ac yn ymddiried ynof. Mae'n rhoi llawer o hyder i mi wybod eu bod wedi cefnogi fy nghynnydd o fod yn Bennaeth Gwasanaeth, i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol ac yn awr i’r Prif Weithredwr.

“Rwy’n credu fy mod yn adnabod y Cyngor yn dda ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fwrw mewn i’r swydd, siarad â’n tîm arweinyddiaeth rhagorol, aelodau etholedig ymroddedig a’n preswylwyr am ein Gweledigaeth ar gyfer y Cyngor yn y dyfodol.”

Dechreuodd Mr Boase weithio i Sir Ddinbych pan gafodd ei sefydlu nôl yn 1996, yn wreiddiol fel Uwch Swyddog Cynllunio, yn 2003 daeth yn Bennaeth Cynllunio a Gwarchod Cyhoedd ac yn 2017 cafodd ei ddyrchafu'n Gyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus.

Mae wedi cychwyn yn y swydd ers 1af o Awst.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...