Sir Ddinbych yn lansio adnoddau twristiaeth newydd
Mae cyfres o adnoddau marchnata proffesiynol cysylltiedig â thwristiaeth i fusnesau eu defnyddio wedi eu lansio fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych.
Mae pecyn cyfathrebu gyda negeseuon allweddol i annog ethos teithio diogel a chyfrifol wedi’i gynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys annog ymwelwyr i gynllunio, paratoi ac archebu ymlaen llaw i sicrhau profiad cadarnhaol, cyngor diogelwch arfordirol a negeseuon diogelwch awyr agored i sicrhau fod gan bobl y sgiliau, gwybodaeth ac offer cywir cyn mentro allan.
Mae’r Cod Cefn Gwlad newydd hefyd yn cael ei amlygu i annog ymwelwyr a phreswylwyr i amddiffyn yr amgylchedd drwy fynd â sbwriel gartref, cadw cŵn dan reolaeth, dilyn arwyddion a chadw ar lwybrau wedi eu marcio, cau giatiau a pharcio’n gyfrifol.
Mae cyfres o graffeg cyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud â’r prif negeseuon wedi’i gynhyrchu i fusnesau a Llysgenhadon Twristiaeth yn ogystal â chronfa lluniau proffesiynol i hybu’r ardal.
Dywedodd Steve Layt, Llysgennad Twristiaeth Aur Sir Ddinbych a threfnydd Gŵyl Gerdded Corwen: “Mae’r adnoddau a’r lluniau yn wych a byddant yn ddefnyddiol iawn i amlygu’r ardal ac annog twristiaeth gyfrifol. Mae Dyffryn Dyfrdwy a Mynyddoedd y Berwyn yn cael effaith mawr ar Corwen a phobl yn dod i Sir Ddinbych ar yr A5, fodd bynnag nid yw llawer o ymwelwyr yn ymwybodol ohono. Fodd bynnag, Moel Fferna yw’r pwynt uchaf yn yr AHNE a Chadair y Berwyn yw’r pwnt uchaf yn Sir Ddinbych.
Ychydig wythnosau yn ôl roeddwn ar Gadair Bronwen ac roedd cwpl o Blackpool ar y copa ac roeddent yn dweud eu bod yn arfer mynd i Eryri ond doedden nhw ddim yn gallu credu’r ystod o fynyddoedd yr oeddent wedi gyrru heibio iddynt.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: Rydym nawr yn nesáu at brif dymor yr haf ac mae’n bwysig parhau i annog ymddygiad cyfrifol a diogel gan ymwelwyr a phreswylwyr. Mae dros 200 busnes yn Sir Ddinbych bellach wedi cyflawni’r nod ‘Barod i Fynd’, sy’n golygu y dilynwyd canllawiau Covid caeth. Rydym i gyd angen gweithio gyda’n gilydd i warchod a gwella nodweddion arbennig Sir Ddinbych ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Mae Sir Ddinbych hefyd yn annog pawb i ddysgu a gwerthfawrogi mwy am yr ardal drwy fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych. Mae cyfres o fodiwlau rhyngweithiol ar-lein am ddim gyda phosau wedi eu llunio ar amrywiol themâu gan gynnwys cerdded, beicio, hanes, y celfyddydau, AHNE, Safle Treftadaeth y Byd, yr arfordir a thwristiaeth bwyd. Mae yna dros 275 o Lysgenhadon ar hyn o bryd ac mae’r cynllun wnaeth ddechrau yn Sir Ddinbych, nawr yn ymestyn i ardaloedd eraill ar draws Cymru.
Dywedodd Richard Hughes, Bracdy Holidays yn Llandyrnog a Llysgennad Twristiaeth Aur: “Nid yw llawer o’n hymwelwyr yng Ngwersyllfa Bracdy erioed wedi aros yn yr ardal o’r blaen. Maent wedi gwirioni gyda hyfrydwch Bryniau Clwyd y tu cefn i’r safle a’r golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Clwyd. Rydym yma i ateb cwestiynau am Sir Ddinbych ac i wella ein gwybodaeth leol rydym wedi dychwelyd i’r ysgol i fod yn Llysgennad. Rydym wrth ein bodd pan mae ein hymwelwyr yn gofyn cwestiynau ac rydym yn hoffi cael yr atebion a gyda 2000 o flynyddoedd o ddigwyddiadau hanesyddol i siarad amdanynt, mae’r mannau agored eang a’r trefi marchnad bywiog â digon yn digwydd.”
Mae dwy Ganolfan Groeso gyda staff Sir Ddinbych nawr yn agored i gynorthwyo ymwelwyr gyda llety, gweithgareddau, bwyta allan a theithio o amgylch y sir. Mae Llangollen yn agored ddydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn 9.30am – 5pm a Chanolfan Groeso y Rhyl yn agored ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, 9.30am – 4pm.
Mae’r gwaith hwn yn ffurfio rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych.
Ebostiwch twristiaeth@sirddinbych.gov.uk os hoffech ddefnyddio’r adnoddau hyn.