Arolygwyr Coed
Mae coed yn chwarae rôl bwysig wrth siapio a diffinio tirluniau Sir Ddinbych. O hen goed parcdir i goed ifanc coetir, ac o erddin gwynion yr ucheldir i boblys y tir isel, maent i gyd yn cyfrannu at wneuthuriad y sir.
Yn gyffredinol, gall coed fyw am amser hir yng Nghymru, h.y. degawdau hyd at canrifoedd. Drwy gydol oes hir iawn, mae coed yn darparu sawl budd i'r amgylchedd ehangach a rhywogaethau eraill, gan gynnwys ni. Mae buddion yn cynnwys darpariaeth ocsigen, dal a storio carbon, cartref i rywogaethau eraill, cymeriad y tirlun, treftadaeth ddiwylliannol, mae’r rhestr yn hirfaith. Serch hynny, mae’r mwyafrif o’r buddion hyn yn cael eu darparu pan mae coeden mewn iechyd da, gyda llawer o dwf.
Gan ei bod yn organebau byw, maent yn agored i gael clefydau. Mae achosion a phresenoldeb clefydau yn elfen bwysig o’r byd naturiol, ond mae'n rhaid cael yr union gydbwysedd mewn amgylchedd iach.
Wrth i fodau dynol symud ymhellach ac yn gynt ar draws y byd, gan gario deunyddiau megis pren a phridd i, ac o leoliadau tu hwnt i gyrhaeddiad naturiol, ac erydu systemau naturiol, mae rhai rhywogaethau wedi ecsbloetio cilfachau nad oedd ar gael iddynt yn y gorffennol.
Mae Hymenoscyphus fraxineus a elwir hefyd yn glefyd coed ynn, yn ffwng sydd erbyn hyn wedi lledaenu yn bell tu hwnt i’w gyrhaeddiad brodorol o rannau o Asia. Mae coed ynn (rhywogaeth Fraxinus) yn y fath fannau yn gallu ymdopi gyda phresenoldeb H. fraxineus gan eu bod wedi esblygu ar y cyd. Serch hynny, mae coed ynn Fraxinus excelsior y DU llawer mwy bregus, gan eu bod wedi esblygu’n annibynnol.
Coedd ynn yw’r rhywogaeth fwyaf cyffredin yn Sir Ddinbych. Maent yn meddiannu rhai coetiroedd, ar hyd priffyrdd, yn sefyll yn falch mewn parciau, ac yn darparu cynefin ar gyfer sawl rhywogaeth cysylltiol. Serch hynny, wrth i'r coed ddirywio mewn cyflwr, maent yn fwy tebygol o golli canghennau, gan achosi risg posib i bobl. Er bod pren marw yn nodwedd gynefinol bwysig iawn, ac mae’n cael ei gadw pan fo'n bosib, mae gennym ddyletswydd gofal i’r cyhoedd.
Mae iechyd a diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr yn flaenoriaeth. O ganlyniad, mae gennym dîm o Arolygwyr Coed sydd wedi ymrwymo i'r dasg o fapio, cynnal arolygon, archwilio ac asesu risgiau yn sgil coed ynn ledled y sir. Mae hon yn dasg heriol, ac mae'n bwysig, nid yn unig ar gyfer iechyd a diogelwch pobl, ond hefyd at ddibenion mewn perthynas â’r datganiad argyfwng newid hinsawdd ac ecolegol. Bydd coed sydd wedi’u cofnodi ar ein system rheoli coed yn cael eu monitro’n agos i bennu os a phan bydd gwaith corfforol yn ofynnol.
Dywedodd Michelle Brown, Arolygydd Coed: “Fy hoff ran o'r swydd yw bod yn yr awyr agored a mwynhau natur a chefn gwlad Sir Ddinbych. Rydw i wir yn mwynhau cwrdd â’r cyhoedd a cheisio meithrin perthynas cadarnhaol rhyngom ni gyd.” Aiff ymlaen i nodi bod gobaith, gan ddweud: “Mae fy niddordeb pennaf yn ymwneud â ymateb amrywiol coed i glefyd coedd ynn, nid yn unig mewn coed aeddfed, ond mewn canran sylweddol o goed ifanc. Mae natur amrywiol Fraxinus excelsior yn rhoi gobaith bod mwtaniad ffafriol (ymwrthiant o bosib) eisoes yn cael ei weld o bosib mewn coed iach, ifanc, ac mae'n rhaid eu gwarchod yn ofalus, fel y coed aeddfed sydd wedi goroesi.”
Bydd data a gasglwyd ar goed ynn yn ystod 2021 yn bwydo i mewn i Gynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn. Bydd y ddogfen hon yn darparu strategaeth i reoli coed ynn wedi'u heintio gyda chlefyd coed ynn. Bydd hefyd yn cynnwys dull ehangach i ddiogelu rhywogaethau cysylltiedig, sy'n hyrwyddo rhywogaethau coed addas ar gyfer eu plannu i ddisodli’r hen rai, ac ystyriaeth lleoliadau lle gallwn annog aildyfiant naturiol coed.
Yn anffodus, nid clefyd coed ynn yw’r unig fygythiad i’n coed lleol. Mae plâu a chlefydau nodedig eraill yn cynnwys clefyd llwyfen yr Iseldiroedd Ophiostoma novo-ulmi, clefyd llarwydden Phytophthora ramorum, ac ymdeithiwr y derw Thaumetopoea processionea. Mae 'rhain, a rhywogaethau eraill yn peri bygythiad gwirioneddol, ond gallwch helpu i leihau'r fath bwysau. Mae gwefan TreeAlert gan Forest Research yn bwynt cychwyn da os ydych chi’n dymuno dysgu rhagor a chyflwyno adroddiad ar gyfer plâu a chlefydau coed.
Mae Tom Hiles, Arolygydd Coed, yn nodi sut mae’n parhau i fod yn gadarnhaol er gwaethaf nifer cynyddol o blâu a chlefydau coed: “Mae’n beth da bod yn rhagweithiol. Rydym yn gallu gwneud rhywbeth ynghylch heriau amgylcheddol ein cyfnod, er fel chwaraewyr bychain mewn gêm fawr. Mae rhywbeth i’w ddysgu ac i ymchwilio iddo ymhellach o hyd. Mae coed a’u bioleg, sut maent yn rhyngweithio gyda rhywogaethau eraill a’u hanes yn y tirlun yn ddiddorol iawn.”
Gall pawb wneud gwahaniaeth cadarnhaol a helpu i leihau lledaeniad plâu a chlefydon drwy weithredu bioddiogelwch da. Y symlaf yw glanhau eich esgidiau o fwd ar ôl pob taith gerdded, rhedeg neu fforiad. Nid yn unig ydych chi’n lleihau lledaeniad sborau a hadau, rydych yn diogelu eich arian hefyd, gan na fydd angen i chi brynu esgidiau newydd yn rheolaidd. Ceir rhagor o wybodaeth am fioddiogelwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/forestry/tree-health-and-biosecurity/how-to-practise-biosecurity-in-woodlands-keep-it-clean/?lang=cy
Andrew Cutts (Swyddog Coed y Sir)