llais y sir

Llais y Sir: Medi 2021

Uchelgeisiau Lleihau Gwastraff yn Sir Ddinbych

Mae’n adeg wych i ganolbwyntio ar leihau gwastraff, gan fod Wythnos Dim Gwastraff newydd fod (2-6 Medi) a’r 19eg Wythnos Ailgylchu flynyddol (20-26 Medi) yn ystod y mis yma. Mae’r ddau ddigwyddiad hwn yn pwysleisio’r pwysigrwydd a’r angen i bob un ohonom ni weithio i leihau allyriadau carbon trwy leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu lle gallwn ni. Thema’r Wythnos Ailgylchu genedlaethol ar gyfer eleni yw ‘Camu i Fyny’. Maent yn annog pawb i wneud mwy o ymdrech wrth ailgylchu ac ymuno yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd!

                                  Ysgol Christchurch – gwaith ailgylchu’r pwyllgor eco               

Roedd gwastraff yn cyfrif am 3% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cyngor Sir Ddinbych yn 2019/20 a 6% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU yn 2018. Felly beth allwn ni i gyd ei wneud? Mae llawer o bethau bach, syml y gall pob un ohonom newid yn ein bywydau i wneud gwahaniaeth mawr. Rhai meysydd i ganolbwyntio arnyn nhw yw bwyd a diod, pecynnau plastig a beth rydych yn ei wneud â’ch dillad a’ch tecstilau. Efallai y gallwch chi feddwl am eich arferion ailgylchu ar hyn o bryd a dod o hyd i fannau i wneud mwy, prynu ffrwythau sydd ddim mewn plastig neu siopa am bethau ail-law i gadw mwy yn yr economi gylchol ac allan o safleoedd tirlenwi. Mae ein penderfyniadau yn y meysydd yma wedyn yn gallu cael effaith ar lefel y galw a helpu i newid y rhain i lefel gynaliadwy ar gyfer y blaned.  

Ysgol y Llys – sioe ffasiwn o ddefnyddiau ailgylchu

Fel Cyngor, rydym ni eisiau lleihau carbon o’n gwastraff o leiaf 35% erbyn 2030 o gymharu â’r sylfaen yn 2019/20 er mwyn ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn Gyngor di-garbon net. Rydym ni’n edrych ar wella ein model gwastraff, yn ogystal â meysydd eraill lle gallwn ni wneud mwy, er mwyn cyrraedd y nod hwn a’n targed ailgylchu statudol o 70% yn 2045/5.

Siop y Canolbwynt Ailddefnyddio, ym mharc gwastraff ac ailgylchu’r Rhyl, Marsh Road, y Rhyl, LL18 2AT

Rydym ni wedi cyflawni nifer o brosiectau lleihau gwastraff Economi Gylchol wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru yn barod eleni, sydd wedi’u hanelu at weithgareddau trwsio ac ailddefnyddio yng nghanol trefi. Mae’r rhain yn cynnwys Siop y Canolbwynt Ailddefnyddio ym mharc gwastraff ac ailgylchu’r Rhyl, a fydd yn helpu i atal tecstilau, trugareddau, dodrefn ac eitemau bach trydanol rhag mynd i’r system wastraff ac yn cynyddu nifer y pethau sy’n cael eu hailddefnyddio. Bydd y manion olaf yn Siop y Canolbwynt Ailddefnyddio’n cael eu cwblhau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys arwyddion parhaol. Gallwch ymweld â’r siop ar hyn o bryd a gweld yr hyn sydd ar gael ar ddyddiau Gwener a Sadwrn (10.00-16.30) a dyddiau Sul (10.00-16.00). Maent yn derbyn taliadau cerdyn neu arian parod.

Cafodd yr un ffynhonnell o gyllid ei defnyddio i sefydlu partneriaeth trwsio tecstilau gyda Co-Options yn y Rhyl, lle mae trigolion lleol yn cael eu hyfforddi i drwsio a pharatoi tecstilau sydd wedi’u rhoi a rhai wedi’u casglu ar ochr y palmant i’w gwerthu eto. Cafodd cyllid hefyd ei ddefnyddio i adnewyddu siopau elusen yng nghanol y dref a darparu cyfarpar roeddent ei angen i’w cynorthwyo i ddargyfeirio gwastraff a pharhau i gyfrannu at yr economi gylchol.

Mae ein hysgolion lleol hefyd yn chwarae eu rhan i annog ac addysgu disgyblion am y pwnc pwysig yma, yn enwedig ein eco-sgolion. Yn ddiweddar, mae disgyblion o Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl wedi bod yn mynd i’r afael â phlastig un-defnydd yng nghymuned eu hysgol trwy herio faint sy’n cael ei ddefnyddio mewn bocsys brechdanau cinio ac annog pobl hefyd i ail-lenwi poteli dŵr plastig neu newid i boteli diodydd plastig caletach. Bu Ysgol Gynradd Christchurch yn y Rhyl yn gweithio gyda’r sefydliad lleol G2G i dderbyn plastig un-defnydd sydd wedi’i daflu, ei lanhau, ei falu a’i anfon atynt i greu eitemau plastig newydd ohono gyda’u hargraffydd 3D ac mae Ysgol Pen Barras yn Rhuthun wedi cyflwyno biniau newydd i gasglu pecynnau creision gwag i’w hailgylchu, a fydd yn atal cannoedd rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’r Cyngor Eco yn yr ysgol hefyd wedi cyfrannu at ailgylchu gwastraff bwyd yn well trwy sicrhau bod biniau bwyd priodol ym mhob adran, sy’n cael eu gwagio un ai i’r bin compost, i fwydo pryfed genwair yn eu fferm bryfed genwair, neu i’r Cyngor eu casglu’n wythnosol. Yn olaf, mae Ysgol y Llys ym Mhrestatyn wedi cynnal prosiect ailgylchu i ddisgyblion greu gwisg o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu a chynnal sioe ffasiwn yn yr ysgol. Daeth dros 210 o blant mewn gwisgoedd anhygoel wedi’u creu o decstilau fel hen gyrtens, bocsys bwyd, papur newydd a chaeadau poteli. Mae’n anhygoel beth allwn ni ei ailddefnyddio wrth fod yn greadigol!

Mae’r eco-sgolion yn cael eu rhedeg yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ewch i: www.keepwalestidy.cymru/eco-sgolion.

Mae rhagor o wybodaeth am holl waith rhaglenni di-garbon net ac ecolegol gadarnhaol y Cyngor i’w gweld ar y wefan – www.sirddinbych.gov.uk/newid-hinsawdd ac mae diweddariadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...