llais y sir

Llais y Sir: Medi 2021

Llyfrgelloedd yn lansio cefnogaeth ddigidol newydd

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych wedi lansio menter ddigidol newydd i gefnogi pobl sy’n chwilio am le ar gyfer apwyntiadau preifat ar-lein.

Ar ôl ailagor yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid, mae holl lyfrgelloedd Sir Ddinbych bellach yn cynnig gofod digidol unigol newydd ar ôl sicrhau cyllid gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Ystafelloedd preifat yw’r rhain sydd â gliniaduron i alluogi trigolion i gynnal apwyntiadau cyfrinachol ar-lein, megis cymryd rhan mewn cyfweliad am swydd, apwyntiad meddygol neu gyfarfod ar-lein trwy Zoom neu blatfformau eraill.

Dywedodd y Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae ein llyfrgelloedd wedi parhau i ddarparu gwasanaeth ardderchog i drigolion lleol trwy gydol y 18 mis anodd diwethaf.

“Rwy’n hynod falch fod y fenter wych hon wedi’i chyflwyno i gefnogi ein trigolion, yn enwedig wrth i ni weld cynnydd mawr yn y defnydd o gyfryngau digidol fel modd o gyfathrebu yn ein bywydau bob dydd yn ystod y pandemig.

“Hoffwn hefyd ddiolch i staff y llyfrgelloedd am eu gwaith caled a’u hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaeth hanfodol i’n cymunedau.

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio, mae trigolion Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa y gallan nhw rŵan ymweld â’u llyfrgell leol i bori, dewis a dychwelyd llyfrau heb drefnu apwyntiad.

Bydd angen iddyn nhw drefnu apwyntiad o hyd i ddefnyddio cyfrifiadur yn y llyfrgell, archebu lle i astudio ac i gael mynediad at wasanaethau’r Siop Un Alwad a gallan nhw wneud hynny trwy ffonio eu llyfrgell leol.

Mae llyfrgelloedd yn lleoedd diogel i ymweld â nhw a mae digon o le i gadw pellter cymdeithasol.  Mae cyfyngiad ar y nifer o bobl sydd i mewn ar yr un pryd ac mae diheintydd dwylo ac offer ar gael.

Gallwch archebu gofod digidol unigol trwy gysylltu â’ch llyfrgell agosaf ar Llyfrgelloedd | Cyngor Sir Ddinbych (denbighshire.gov.uk)  

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...