llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno prydau ysgol am ddim Awst 2022

Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer disgyblion dosbarth derbyn yn ysgolion Sir Ddinbych i ddechrau derbyn prydau ysgol am ddim cyffredinol o fis Medi.

Ar ôl derbyn £859,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd ar draws Sir Ddinbych, mae gwaith wedi dechrau i gynyddu capasiti ysgolion cynradd yr Awdurdod.  Roedd gwaith wedi dechrau cyn dechrau gwyliau’r Haf hyd at ddiwedd Awst 2022 mewn 13 safle ar draws y Sir.

Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gynnig prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgol gynradd.   Yn ddiweddarach cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gamau cyflwyno fesul cam i’w weithredu o 1 Medi 2022 i fis Medi 2024.  

Bydd darparu Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol mewn Ysgolion Cynradd yn cynyddu prydau dyddiol gwasanaeth Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych o 3500 i 7687. Yn dilyn adolygiad cychwynnol, penderfynwyd nad oedd nifer o’r ceginau ysgol presennol yn addas i’r diben i ddarparu’r cynnydd yn y nifer o brydau a byddai angen buddsoddiad sylweddol er mwyn cwrdd â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno fesul cam. 

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Gwasanaethau, “Mae darparu Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i holl ddisgyblion ysgol gynradd yn brif flaenoriaeth i’r Awdurdod. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn her sylweddol gydag amserlenni tynn, ac rwy’n falch o weld drwy waith ardderchog ar draws gwasanaeth gan swyddogion CSDd a chefnogaeth ragorol gan gyflenwyr lleol, mae contractwyr a Llywodraeth Cymru o fewn targed i gyflwyno’r prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd i holl ddisgyblion dosbarth derbyn sy’n mynychu ysgolion Sir Ddinbych o fis Medi 2022.”

Bydd cam nesaf y gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau bod holl ysgolion Cynradd yn gallu darparu i Flwyddyn 1 a 2 erbyn y Pasg 2023. 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...