llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Dathliad llwyddiant prosiect TRAC am wneud gwahaniaeth go iawn

Mae prosiect a sefydlwyd yn Sir Ddinbych i gefnogi pobl ifanc ymddiddan mewn addysg er mwyn gwireddu eu potensial wedi dathlu ei gyflawniadau mewn digwyddiad arbennig.

Dechreuodd y prosiect TRAC yn 2015 a hyd yma, mae wedi cefnogi 1,995 o bobl ifanc trwy wahanol fathau o gefnogaeth, gan gynnwys mentoriaid cymorth, swyddogion ieuenctid, cwnsela, cyrsiau pwrpasol a chefnogaeth gan Gyrfa Cymru.

Sicrhaodd 304 o bobl ifanc gymwysterau drwy'r gefnogaeth a gawsant ac fe gafodd 471 ostyngiad yn NEET (heb fod mewn Ymgysylltu ag Addysg na Chyflogaeth).  O'r cyfranogwyr mae 78.8% wedi parhau mewn addysg llawn amser a 13.3% arall wedi symud ymlaen i gwrs lefel uwch llawn amser yn y coleg.

Mae TRAC wedi gweithio gyda 18 o gwmnïau lleol i ddarparu 126 o gyrsiau pwrpasol i bobl ifanc yn Sir Ddinbych i fynd i'r afael â'u hanghenion a darparu darpariaeth achrededig o ansawdd uchel.

Mae TRAC wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc: "Mae hon yn stori o lwyddiant go iawn. Mae pobl ifanc wedi elwa'n fawr o gefnogaeth ac arweiniad, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi o safon sydd wedi eu cefnogi i aros mewn addysg ac ennill cymwysterau.

"Mae'n flaenoriaeth i'r Cyngor wneud Sir Ddinbych yn rhywle ble mae pobl ifanc eisiau byw a gweithio a chael y sgiliau i wneud hynny.  Mae TRAC wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddarparu cyfleoedd o'r fath i bobl ifanc ail-ymgysylltu ac rydym wrth ein bodd gyda'i lwyddiant.

"Dros hyd oes y prosiect mae ffigyrau NEET yn Sir Ddinbych wedi gostwng yn raddol o 3.1% i 1.7%.  Mae hyn hefyd wedi parhau i ostwng yn raddol yn ystod y pandemig drwy hyblygrwydd a phenderfyniad swyddogion TRAC i barhau i gefnogi ysgolion a phobl ifanc bregus.

"Mae fy niolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect a'r rhai sydd wedi cefnogi ein pobl ifanc i ddod i'w potensial".

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...