llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Ffoadur yn derbyn gwaith gyda busness bwyd lleol

Cyrhaeddodd ‘Mr H’ y Deurnas Unedig ym mis Awst 2021 ar ôl gorfod gadael ei wlad wreiddiol yn sgil aflonyddwch sifil. Ymgartrefodd Mr H a’i deulu yn Sir Ddinbych ym mis Rhagfyr 2021. Roedd gan Mr H brofiad yn y sector manwerthu ac wedi rhedeg ei fusnes manwerthu dillad ei hun yn flaenorol.

Cafodd Mr H ei atgyfeirio at Sir Ddinbych yn Gweithio gan ei weithiwr cefnogi yn Rhagfyr 2021. Dywedodd Mr H ei fod yn awyddus i weithio ond roedd yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys:

  • Roedd gan Mr H yr hawl i weithio, ond nid oedd wedi derbyn prawf swyddogol o hyn gan y swyddfa gartref er mwyn bodloni cyflogwr newydd.  
  • Nid oedd Mr H yn ymwybodol o’r broses o ddod o hyd i waith gan gynnwys CV, ceisiadau swyddi a thechnegau cyfweliad.
  • Ychydig iawn o Saesneg oedd gan Mr H ac nid oedd o safon ddigonol a ddisgwylir o fewn rôl gwasanaeth i gwsmeriaid.
  • Ychydig iawn o ddealltwriaeth oedd gan Mr H o ofynion gweithle’r DU gan gynnwys arferion diwylliannol.
  • Mr H oedd yr unig siaradwr Saesneg yn ei deulu ac felly roedd yn treulio llawer o amser yn eu cefnogi nhw i fynychu apwyntiadau. Felly nid oedd yn teimlo y gallai weithio llawn amser ar y pwynt hwn.

Dechreuodd Mr H fynychu dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill dau ddiwrnod yr wythnos er mwyn cynyddu ei wybodaeth.

Cafodd Mr H ei gefnogi drwy broses o ddeall sgiliau sylfaenol o ran chwilio am waith gan gynnwys creu CV, archwilio gwefannau recriwtio a helpu gyda chwilio am swyddi.

Cafodd Mr H lwyddiant o ran derbyn cyfweliadau mewn siopau lleol, fodd bynnag nid oedd yn llwyddiannus yn y cyfweliadau oherwydd ei sgiliau Saesneg a’i lefel o ddealltwriaeth o ran arferion cymdeithasol.  

Ym Mai 2022, clywodd ei Fentor Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio am fusnes bwyd lleol a oedd yn ei chael yn anodd cael digon o staff ac eglurodd i Mr H er nad paratoi bwyd oedd ei nod, byddai hyn yn ei alluogi i ymarfer ei Saesneg, cael profiad o’r gweithle a chael mwy o gyfleoedd ar gyfer rolau gwasanaeth i gwsmeriaid yn y dyfodol.

Gweithiodd Mr H gyda’i Fentor Cyflogaeth, gan fynychu sesiynau cyfweliad ffug 1 i 1. Fe wnaethant weithio ar sut i ganfod geiriau ac ymadroddion y byddai’r cyflogwr yn awyddus i glywed gan ymgeisydd, yn ogystal â chanfod sgiliau allweddol roeddent yn gofyn amdanynt a allai bwysleisio yn y cyfweliad. Rhoddodd Mr H lawer o ymdrech i mewn i hyn ac ar ôl gwneud cais i’r busnes bwyd lleol, roedd yn llwyddiannus yn y cyfweliad yr wythnos ganlynol.

  • Mae Mr H wedi sicrhau contract ar gyfer 16 awr yr wythnos mewn busnes bwyd lleol ac fe ddechreuodd ei gyflogaeth ar 16 Mehefin 2022
  • Dywedodd Mr H ei fod yn teimlo’n dda iawn ar ôl cael ei gyflogi a bod y bobl yn gyfeillgar iawn ac mae’n hapus ei fod wedi cael y swydd.  
  • Mae ei Fentor Cyflogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cynnig cymorth parhaus i Mr H a’i gyflogwr er mwyn sicrhau ei fod yn ymgartrefu i’w rôl newydd yn dda.
  • Mae Mr H wedi cynyddu incwm ei deulu ac mae’n dal i allu mynychu’r coleg i wella ei sgiliau Saesneg.

Mae mwy o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio ar ein gwefan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...