llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Lledaenwch y neges am ymgyrch recriwtio i ofal cymdeithasol

Mae ymgyrch recriwtio i annog mwy o bobl i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn parhau.

Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gofal cymdeithasol gwag, yn enwedig yn ystod Covid pan gynyddodd y galw am ofal cymdeithasol.

Ac mae’r ymgyrch o'r enw Gwnewch i Bobl Wenu wedi'i lansio i godi proffil gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol ac i hysbysebu'r swyddi gweigion presennol sy'n bodoli yn y sir.

Bydd yr ymgyrch hon yn cynnwys cymysgedd o hysbysebion ar drafnidiaeth gyhoeddus, baneri mewn lleoliadau cymunedol, hysbysebion yn y cyfryngau lleol, gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol a brandio ar rai o gerbydau’r Cyngor. Bydd y Cyngor hefyd allan mewn lleoliadau yn cynnal sioeau teithiol recriwtio a gweithdai.

Mae'r Cyngor hefyd wedi ailwampio ei wybodaeth ar y wefan ac wedi cynnwys astudiaethau achos fel fideos, mewn ymgais i annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn. Mae adran cwestiynau cyffredin hefyd wedi'i darparu i roi atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf rheolaidd a dderbyniwyd.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ymweld â’r wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi-gofal

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...