Galw am westeiwyr ar gyfer rhaglen ailsefydlu’r DU yn Sir Ddinbych
Mae'r Cyngor yn galw ar bobl sy’n byw yn y sir i gysylltu gyda Llywodraeth Cymru os ydynt yn gallu cynnig cartref i’r rheiny sy’n ailsefydlu yn y DU o ganlyniad i’r erchyllterau yn Wcráin.
Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i groesawu teuluoedd ac unigolion i Sir Ddinbych ac mae timau o’r Cyngor wedi bod yn gweithio i gynnal gwiriadau mewn eiddo sydd wedi cael eu cyflwyno fel llochesi. Mae timau hefyd yn gweithio i gefnogi anghenion iechyd a lles pobl, yn ogystal â chefnogi teuluoedd i ganfod llefydd mewn ysgolion i’w plant.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi adnewyddu’r galw am ragor o westeiwyr sy’n gallu cynnig cartref i ddod ymlaen ac mae'r Cyngor yn eu cefnogi i rannu gwybodaeth a chysylltu â chymunedau lleol.
Er mwyn cynnig cartref yng Nghymru i ffoaduriaid o Wcráin, mae’n rhaid i chi:
- fyw neu fod yn berchen ar eiddo preswyl yng Nghymru
- gadarnhau nad ydych wedi eich paru â gwesteion o Wcráin
- allu cynnig ystafell sbâr neu gartref ar wahân am o leiaf 6 mis
- gadarnhau eich bod wedi cael caniatâd i aros yn y DU am o leiaf 6 mis
- allu datgan nad oes gennych gofnod troseddol
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae gan Sir Ddinbych hanes hir o letya a chefnogi ffoaduriaid, a dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi ailsefydlu 25 o deuluoedd, sy’n cynnwys 95 o unigolion, yn bennaf mewn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid yn Syria ac Affganistan.
“Mae’n bleser gennym fedru croesawu teuluoedd ac unigolion sydd wedi cyrraedd Sir Ddinbych o Wcráin dros yr wythnosau diwethaf ac mae’r gwaith hwn yn parhau.
“Mae’r Cyngor yn gweithio i sicrhau bod y gefnogaeth berthnasol ar gael i deuluoedd unwaith y byddant yn cyrraedd Sir Ddinbych, mae hyn yn cynnwys gwaith gan y tîm addysg i brosesu ceisiadau am lefydd mewn ysgolion.
“Yn sgil cyllid y Swyddfa Gartref, rydym mewn sefyllfa dda i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnom ac mae gennym weithgor i reoli’r rhaglen, yn ogystal â thîm ymroddedig yn gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, a chefnogaeth ychwanegol gan bartneriaid yn y trydydd sector a grwpiau gwirfoddol lleol.
“Mae nifer o breswylwyr Sir Ddinbych wedi dod ymlaen i gynnig llety i’r rheiny sydd wedi cael eu gorfodi i adael Wcráin yn sgil y gwrthdaro sy’n mynd rhagddo ac ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch iddynt am eu caredigrwydd.
“Fodd bynnag, mae arnom ni angen i’r unigolion a’r teuluoedd hynny sy’n gallu darparu cartref gysylltu gyda Llywodraeth Cymru.
Os oes gan unrhyw un unrhyw ymholiadau, neu os ydynt yn awyddus i gynnig llety, dylent ymweld â: https://llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain